Rhestr cyfarpar cleddyfa

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rhestr Cyfarpar Cleddyfa)

Rhestrir cyfarpar cleddyfa

Gwisg[golygu | golygu cod]

Clos pen-glin
  • Amddiffynnydd y frest Wedi ei wneud o blastig a wisgir o dan blastron i amddiffyn y frest. Mae’n orfodol i ferched ac yn gyffredin ymhlith cleddyfwyr o ddynion ifainc a feteraniaid
  • Bib Darn o’r mwgwd sy’n gorchuddio’r gwddwg
  • Clos pen-glin Ddillad sy’n amddiffyn y pengliniau at y llinell wasg; mae'n orfodol i'r siaced allu gorgyffwrdd 10 cm o'r clos pen-glin. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn dod â gardysau
  • Esgidiau cleddyfa Esgidiau sydd wedi eu cynllunio yn arbennig ar gyfer cleddyfa
  • Hosanau Dilledyn ar gyfer y droed a rhan isaf y goes sy’n gorchuddio yn union dan y pen-glin
  • Lamé Wedi ei greu o ddeunydd trydanol dargludol, fe’i gwisgir gan gleddyfwyr ffwyl a sabr er mwyn diffinio'r ardal sgorio
    Siaced
  • Manchette Gorchudd maneg arbennig wedi ei wneud o ddeunydd trydanol dargludol. Fe’i gwisgir weithiau gan gleddyfwyr sabr ynghyd â lamé i estyn y targed
  • Maneg Yn cael ei gwisgo i amddiffyn llaw’r cleddyf, mae gan y faneg dyrnfol sy'n atal llafnau rhag mynd i fyny’r llewys ac achosi anaf
  • Mwgwd Wedi ei wisgo gan y cleddyfwr i amddiffyn y pen, mae gwifrog dur y mwgwd yn gadael i'r cleddyfwr weld
  • Plastron Dilledyn sy’n cael ei wisgo o dan y siaced; diben y plastron yw amddiffyn y corff rhag ofn i sêm y siaced dorri
  • Siaced Dilledyn wedi ei wneud o ddeunydd 350 neu 800 Newton, mae’r siaced yn gorchuddio’r breichiau a'r corff. Yn dibynnu ar y siaced, mae ganddynt blaen neu sip ôl
  • Stribyn cenedlaethol Deunydd addurnol sy’n dynodi pa wlad mae cleddyfwr yn ei chynrychioli
    Lame
Amddiffynnydd y frest
Amddiffynnydd y frest 
Hosannau
Hosannau 
Maneg
Maneg 
Mwgwd
Mwgwd 

Eraill[golygu | golygu cod]

Gwifren dau bin ar y chwyth a gwifren cleddyf blaenbwl ar y dde
Casgliad o Garnau
(Top) Gard sabr (Chwith) Gard ffwyl (Dde) Gard cleddyf blaenbwl
  • Gwifren corff Gwifren hir sy’n cael ei gorchuddio o dan siaced neu ‘lame’ sy’n caniatáu’r cleddyfwyr gael ei gysylltu â'r cyfarpar electronig
    • Gwifren cleddyf blaenbwl
    • Gwifren bidog
    • Gwifren dau bin
  • Gwifren pen Gwifren a cahnddi glip crocodeil ar bob pen sy’n gadael i bib ffwyl a mwgwd sabr fod yn ddargludol trwy ymestyn y cylched

Cydrannau[golygu | golygu cod]

Darnau unigol sy’n wneud cleddyf

  • Baril Tiwb silindraidd, wedi ei leoli ar ben y llafn; mae’n gorchuddio y tip a’r sbring
  • Carn Bydd person yn ei dal i allu rheoli’r cleddyf
  • Cnepyn Yn debyg i'r nyten, mae'r cnepyn yn cael ei ddefnyddio i dynhau cleddyf â charn Sabr neu Ffrengig
  • Gard Wedi ei leoli ar y llafn, mae’r gard yn amddiffyn y bysedd
  • Gwifren llafn Gwifren drydanol sy'n rhedeg ar hyd y llafn i gysylltu'r blaen a'r soced
  • Llafn Darn hir o dir
    • Cwt Darn silindraidd a helical o fetel sy’n ffurfio rhan isaf y llafn. Mae'r siâp helical yn gadel i nyten neu cnepyn cadw’r gard, soced, carn a phad mewn lle
  • Llewys plastig Darn o blastig tenau a silindraidd sy'n cael ei osod dros wifren llafn i'w hamddiffyn cyn i'r wifren gysylltu â'r soced
  • Nyten Wedi ei lleoli tu ôl neu o fewn y carn; ddefnyddir nyten i dynhau’r cleddyf
  • Pad Wedi ei leoli tu ôl i'r gard, mae'r pad yn atal y wifren rhag symud ac yn amddiffyn y llaw pe bai'r cleddyfwr yn ei chyffwrdd
  • Pwynt Wedi ei wneud o fetel a phlastig ac yn gweithredu fel botwm; gellir dod o hyd i'r pwynt ar ddiwedd ffwyl a chleddyf blaenbwl
  • Sbring Coil metel troellog sy'n caniatáu pwyntiau ffwyl a chleddyf blaenbwl i gael eu gwasgu. Maent hefyd ar gael o fewn soced bayonet a gwifren corff dau bin
  • Sgriw bengoll Sgriwiau bach a’i defnyddiwyd o fewn baril i gadw’r blaen a’r sbring
  • Soced Yn clipio i mewn i'r wifren corff
    • Soced cleddyf blaenbwl
    • Soced bidog
    • Soced dau bin
  • Tâp llafn Ffwyl yn unig, bydd y tâp yn gorchuddio dros 15 cm o’r llafn, yn ei ddechrau tu ôl i’r faril
    • Tâp baril Tâp sy’n gorchuddio baril ffwyl

System sgori[golygu | golygu cod]

Dau fath o sbŵl.
Un enghraifft o cyfarpar cyfnodi
Enghraifft arall o cyfarpar cyfnodi
  • Cyfarpar cofnodi Term gyffredin i ddisgrifio system electronig sgorio i gofnodi’r trawiadau
  • Gwifren llawr Yn cysylltu'r sbŵl â'r cyfarpar cofnodi
  • Sbŵl Wedi ei leoli ar ddau ben y trac, mae gan y sbŵl wifrau ôl-dynadwy ac sy'n cysylltu â gwifren chorff cleddyfwr
  • Cyfarpar di-wifr System sgori heb wifrau

Trac cleddyfa

Ategolion[golygu | golygu cod]

  • Bag cleddyfa Bag sydd wedi ei gynllunio i gludo cit cleddyfa