Rheilffordd ysgafn Bere Alston a Calstock

Oddi ar Wicipedia

Sefydlwyd Rheilffordd ysgafn Bere Alston a Calstock gan ddeddf ar 23 Mehefin 1902 efo cyllid o £135,000.

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorwyd Rheilffordd Fwnol Dwyrain Cernyw (led 3' 6”) ym Mai 1872 o Kelly Bray i Cei Calstock. Ym 1890, agorwyd Rheilffordd Plymouth Devonport a Chyffordd Deheuol lein o Devonport i Lydford efo cysylltiad i Lundain, a phrynasant Rheilffordd Fwnol Dwyrain Cernyw ym 1891, yn bwriadu creu cysylltiad rhwng Kelly Bray a'r brif lein, ond nad oedd cyllid tan 1900. Bwriadwyd adeiladu pont 120 troedfedd o uchder, ac wedyn newid Rheilffordd Fwnol Dwyrain Cernyw i led safonol.

Apwyntwyd Cyrnol Stephens yn beiriannydd ymgynghorol, yn rhoi cyngor am adeiladwaith, newid lled, locomotifau, cerbydau a signalau.

Agorwyd y lein ar 2 Mawrth, 1908 a daeth Stephens yn beiriannydd a rheolwr; talwyd £250 y blwyddyn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Tudalen Rheilffordd Ysgafn Bere Alston a Calstock ar wefan Cyrnol Stephens". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-12-24.