Rheilffordd Foxfield
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | rheilffordd dreftadaeth ![]() |
---|---|
![]() | |
Lled y cledrau | 1435 mm ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth | Forsbrook ![]() |
Gwefan | https://foxfieldrailway.co.uk ![]() |
![]() |
Rheilffordd Foxfield | |||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Mae Rheilffordd Foxfield yn rheilffordd dreftadaeth ger Blythe Bridge yn Swydd Stafford.
Y rheilffordd wreiddiol
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y rheilffordd wreiddiol ym 1893 er mwyn cysylltu Glofa Foxfield, ger Dilhorne â’r Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford yn Blythe Bridge. Mae;r rheilffordd yn cynnwys graddfa 1 i 19 am dros hanner filltir. Adeiladwyd y rheilffordd gan weithwyr y Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford o dan arweiniaeth Noah Stanier.[1]
Atgyfodi
[golygu | golygu cod]Cymerodd cwmni prosesu mwynau drosodd ym 1965 er mwyn cludo mwynau i’r brif reilffordd, ac yn gydamserol, ffurfiwyd cymdeithas i redeg trenau ar gyfer teithwyr dros penwythnosau. Ni ddechreuodd trenau nwyddau, ond prynodd y gymdeithas locomotif stêm ym 1967. Dechreuodd gwasanaeth i deithwyr ar 14 Mai 1967. Erbyn hyn (2017) mae gan y gymdeithas dros 30 o locomotifau, rhai ohonynt mewn amgueddfa yn y brif orsaf.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Tudalen hanes ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-05. Cyrchwyd 2017-12-20.