Rheilffordd Driving Creek
Math | gwarchodfa natur, oriel gelf, pottery studio, llinell rheilffordd, rideable miniature railway |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Seland Newydd |
Cyfesurynnau | 36.737087°S 175.504378°E |
Hyd | 2.7 cilometr |
Mae Rheilffordd Driving Creek yn rheilffordd i dwristiaid ar Benrhyn Coromandel ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd. Gwelir gwaith celf o’r crochendy yn ystod y daith.
Hanes
[golygu | golygu cod]Crewyd rheilffordd lled 266 milimedr[1] gan Barry Brickell ar ôl iddo sefydlu gweithdy crochenwaith ar y safle ym 1973, er mwyn symud clai a choed. Cafodd drwydded i gludo teithwyr ym 1990. Lled y trac presennol yw 381 milimedr, yn disodli ei reilffordd gynharach. Adeiladwyd y locomotifau a cherbydau yng ngweithdy’r rheilffordd.[2]. Cariwyd y teithwyr cyntaf ym 1988, ac mae teithwyr wedi talu ers 20 Hydref 1990.
Locomotifau a Threnau
[golygu | golygu cod]Dieselmouse
[golygu | golygu cod]Locomotif 0-4-0, adeiladwyd ym 1976. Dal ar waith.
Elephant
[golygu | golygu cod]Locomotif diesel 0-4-4-0 gyda pheiriant Ford. Cludodd teithwyr yn wreiddiol. Erbyn hyn yn gweithio ar drenau gwaith.
Mae gan y 3 thrên beirannau diesel, yn achos Possum, Snake a Linx, wedi gosod ynghanol y trên. Mae ganddynt hefyd drawsyriant hydrolig a breciau awyr.[3]r[4]
Possum
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd ‘Possum’ ym 1994. Mae ganddo 14 sedd.
Snake
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd ‘Snake’ ym 1992. Mae’n uned 3 cherbyd, yn dal 36 o bobl.
Linx
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd ‘Linx’ yn 2004. Mae’n uned 3 cherbyd, yn dal 36 o bobl.
Locomotifau a cherbydau eraill
[golygu | golygu cod]Mae 2 locomotif diesel a sawl wagen ar gyfer gwaith ar y lein neu yn y coedwigoedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan engineeringnz.org[dolen farw]
- ↑ "Gwefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-08. Cyrchwyd 2018-12-31.
- ↑ "Gwefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-08. Cyrchwyd 2018-12-31.
- ↑ Gwefan engineeringnz.org[dolen farw]
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan y rheilffordd Archifwyd 2019-01-08 yn y Peiriant Wayback