Rhaid Peidio Dawnsio . . .

Oddi ar Wicipedia
Poster Rhys Aneurin o'r gerdd "Rhaid Peidio Dawnsio" gan Emyr Lewis

Cerdd ar fesur mydr ac odl gan y prifardd Emyr Lewis yw "Rhaid Peidio Dawnsio . . ." ac mae'n rhan o'r dilyniant a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998 ar y testun "Rhyddid". Mae'r bardd wedi seilio ei ddilyniant ar fywyd dinas Caerdydd gan ystyried amser a'r modd y mae dyn wedi creu cyfyngiadau amser iddo'i hunan drwy amser y cloc ond fe all hefyd ddianc i fyd diamser breuddwydion a'r dychymyg.

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae tri phennill i'r gerdd hon ac yn y pennill cyntaf cyfeirir at reol ddychymygol yng Nghaerdydd, sef bod dawnsio'n cael ei wahardd rhwng wyth a deg y bore. Dywedir bod yr Heddlu Cudd a'r Cyngor yn gwneud defnydd o gamerâu cylch cyfyng (CCTV) i sicrhau bod pawb yn cadw at y rheol hon.
Yn yr ail bennill dywedir ei bod hi'n bosib dawnsio yng Nghaerdydd ar adeg benodol, sef rhwng deg o'r gloch ac un ar ddeg o'r gloch y bore ond bod rhaid gwneud hynny mewn esgidiau coch a bod rhaid i'r dawnswyr gael eu hebrwng i fannau penodol yn ogystal er mwyn dawnsio.
Yn y pennill olaf gwelir newid cywair gan fod rhai yn mynnu torri'r rheolau hyn a herio'r drefn. Pan fydd niwl dros y ddinas a'r camerâu wedi rhewi ym mis Chwefror ni fydd y "swyddogion sarrug" yn gallu gweld yr hyn sy'n digwydd ar y strydoedd a phryd hynny bydd y stryd yn llawn "o ddawns y sodlau noethion".

Chwiliwch am Pennill
yn Wiciadur.

Mesur[golygu | golygu cod]

Mesur yn y canu rhydd yw mydr ac odl ac mae'r cerddi ar y mesur hwn yn amrywiol o ran nifer sillafau mewn llinell a phatrymau odli llinellau. Er y gallant amrywio o gerdd i gerdd mae gan bob cerdd ar fesur mydr ac odl strwythur pendant.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]