Red Deer
Gwedd
| Math | dinas yn Alberta, Canada, dinas fawr |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Afon Red Deer |
| Poblogaeth | 100,418, 100,844 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Ken Johnston, Tara Veer, Morris Flewwelling |
| Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Mynyddoedd |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Alberta |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 104.73 km² |
| Uwch y môr | 855 ±1 metr |
| Gerllaw | Afon Red Deer |
| Yn ffinio gyda | Red Deer County |
| Cyfesurynnau | 52.2681°N 113.8111°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Red Deer City Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer |
| Pennaeth y Llywodraeth | Ken Johnston, Tara Veer, Morris Flewwelling |
![]() | |
- Gweler hefyd Red Deer (gwahaniaethu).
Dinas yng nghanolbarth Alberta, Canada yw Red Deer. Fe'i lleolir tua hanner ffordd rhwng Calgary ac Edmonton, a dyma drydedd ddinas fwyaf Alberta ar ôl y dinasoedd hynny. Fe'i hamgylchynir gan Swydd Red Deer. Poblogaeth: 89,891 (2009).
Gorwedd dinas Red Deer ar lan Afon Red Deer mewn ardal o fryniau coediog a nodweddir gan goedwigoedd aspen a meysydd agored lle mae'r economi yn seiliedig ar gynhyrchu olew a grawnfwyd a magu gwartheg. Dosberthir cynhyrchion y diwydiannau hyn o Red Deer.
Bu'r ardal yn gartref i bobloedd brodorol cyn dyfodiad yr Ewropeaid cyntaf yn y 18g. Sefydlwyd gwersyll masnachu yno yn 1882, a gymerodd ei enw ar ôl yr afon sy'n llifo trwy'r ardal, a daeth yn dref yn 1901 ac yn ddinas yn 1913.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan dinas Red Deer
