Raffl

Oddi ar Wicipedia

Math o gystadleuaeth gamblo lle mae pobl yn cael tocynnau wedi'u rhifo, a phob tocyn yn cael cyfle i ennill gwobr, yw raffl. Ar amser penodol, mae'r enillwyr yn cael eu tynnu ar hap o gynhwysydd sy'n dal copi o bob rhif. Weithiau mae'r tocynnau a dynnir yn cael eu gwirio yn erbyn casgliad o wobrau gyda rhifau ynghlwm wrthynt, ac mae deiliad y tocyn yn ennill y wobr. Dro arall, bydd y person sydd â'r tocyn buddugol yn cael dewis o'r holl wobrau sydd ar gael.

Mae raffl yn gêm boblogaidd mewn llawer o wledydd, ac fe'i cynhelir yn aml i godi arian ar gyfer elusen neu ddigwyddiad penodol. Wrth godi arian at achos da, bydd y gwobrau yn aml wedi'u rhoi fel rhodd i gefnogi.

Tombola[golygu | golygu cod]

Mae tombola yn fath o raffl sy'n tarddu o Dde'r Eidal ac sy'n cael ei chwarae yn bennaf ar adeg y Nadolig. Yn aml, dim ond gwerth symbolaidd sydd i'r gwobrau. Gydag allfudo enfawr yr Eidal yn y 19eg a'r 20fed ganrif, cafodd y gêm ei hallforio dramor ac fe gymerodd ffurfiau ac enwau gwahanol fel Bingo.