Radiohead

Oddi ar Wicipedia
Aelodau'r band Radiohead

Mae Radiohead yn fand roc gwahanol o Swydd Rydychen. Aelodau'r band yw Thom Yorke (prif leisydd, gitâr rhythm, piano, electroneg), Jonny Greenwood (prif gitâr, offerynnau eraill), Ed O'Brien (gitâr, canu cefndirol), Colin Greenwood (gitâr bâs, allweddellau) a Phil Selway (drymiau, offerynnau traw). Ers 1993, mae Radiohead wedi rhyddhau saith albwm stiwdio. Yn 2007, roedd y band wedi gwerthu dros 25 miliwn albwm.