Radio Rumantsch
Radio Rumantsch (RR) yw'r orsaf radio yn yr iaith Romaunsch gan Radio e Televisiun Rumantscha ar gyfer yr ardaloedd Romaunsch yn y Swistir (yn enwedig canton Grisons).
Mae seiliau'r orsaf yn mynd yn ôl i 17 Ionawr 1925 pan ddarlledwyd yn yr iaith Romaunsch am y tro cyntaf erioed ar radio'r Swistir. Crewyd Radio Rumantsch yn 1954 gyda chyfres o ddarllediadau ar gyfer y Grisons. Ar ôl i'r SSR ad-drefnu yn 1991, aeth Radio Rumantsch yn annibynnol. Ond yn 1995 daeth yn eiddo i Televisiun Rumantscha, a ffurfiwyd Radio e Televisiun Rumantscha.
Erwin Ardüser yw'r cyfarwyddwr. Lleolir y pencadlys yn Coire a cheir swyddfeydd yn Savognin, Glion, Scuol, Müstair, Samedan a Berne. Darlledir Radio Rumantsch ar FM yn canton Grisons ac yng ngweddill y wlad, a hefyd gan loeren trwy Ewrop gyfan. Mae Radio Rumantsch yn darlledu 14 awr o raglenni Romaunsch y dydd, o 6 o'r gloch yn y bore hyd 9 o'r gloch yn y nos.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Romaunsch) Gwefan swyddogol Archifwyd 2006-10-11 yn y Peiriant Wayback
- (Romaunsch) Gwrandewch yr orsaf ar y Rhyngrwyd Archifwyd 2006-10-11 yn y Peiriant Wayback