Prif ddilyniant
Disgrifiad o ddosbarthiad ac esblygiad sêr (Diagram Hertzsrung-Russell). Y Prif Ddilyniant yw'r llinell letraws ar ganol y llun. | |
Enghraifft o'r canlynol | esblygiad serol |
---|---|
Math | esblygiad serol |
Rhan o | diagram Hertzsprung–Russell |
Olynwyd gan | subgiant |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Term mewn seryddiaeth yw'r brif ddilyniant[1]. Mae'n cyfeirio ar ran arbennig o graff sy'n cymharu disgleirdeb seren a thymheredd ei ffotosffer (sef ei wyneb arddangosiadol). Yn y rhan hon mae rhan fwyaf o sêr y bydysawd (gan gynnwys yr haul) yn ystod y rhan fwyaf o'u hoes. Lluniwyd y graff a ganfuwyd pwysigrwydd y berthynas ynddi yn 1910 gan Ejnar Hertzsprung[2], seryddwr o Ddenmarc, a'r Americanwr Henry Norris Russell. Fe'i gelwir y diagram Hertzsprung-Russell[1] ar eu hol. Profodd y diagram hwn yn bwysig iawn yn natblygiad ein dealltwriaeth o ddatblygiad a bywyd sêr[3].
Y mwyaf ydy seren, y lleiaf o amser yw ei chyfnod yn y prif ddilyniant. Ar faint y seren, hefyd, y dibynna ei ffawd ar ôl gadael y prif ddilyniant. Yn 4.6 biliwn mlwydd oed mae'r haul tua hanner ffordd ar hyd ei gyfnod yn y prif ddilyniant. Ymhen ryw 5 biliwn o flynyddoedd, fe ddaw cyflenwad tanwydd hydrogen yr haul i ben ac mi fydd yn chwyddo dros gyfnod o ryw biliwn o flynyddoedd i ffurfio is-gawr i gychwyn ac yna cawr coch. Mi fydd y rhain yn ymddangos yng nghangen cawr coch diagram Hertzsrung-Russell.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Andrew Fraknoi; David Morrison; Sidney C. Wolff (2016). Astronomy (PDF). Openstax. tt. 637 ag eraill. ISBN 978-1-938168-28-4.
- ↑ Ashworth, Jr, William B. (8 Hydref 2019). "Scientist of the Day - Ejnar Hertzsprung". Linda Hall Library. Cyrchwyd 6 Mai 2021.
- ↑ "Hertzsprung-Russell diagram animation". Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA). Cyrchwyd 5 Mai 2021.