Pont Jamuna
Math | pont |
---|---|
Agoriad swyddogol | Mehefin 1998 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Sirajganj |
Sir | Sirajganj District |
Gwlad | Bangladesh |
Cyfesurynnau | 24.3991°N 89.7853°E |
Hyd | 4,987 metr |
Deunydd | concrit |
Pont fawr ym Mangladesh sy'n cysylltu gorllewin a dwyrain y wlad yw Pont Jamuna neu Pont Bangabandhu, a elwir weithiau yn Pont Amlbwrpas Jamuna (Bengaleg: যমুনা বহুমুখী সেতু Jomuna Bohumukhi Shetu). Agorwyd y bont ym Mehefin 1998 i gysylltu Bhuapur (Tangail) ar lan ddwyreiniol Afon Jamuna (Afon Brahmaputra) a Sirajganj ar y lan orllewinol. Dyma'r bont 11eg hiraf yn y byd a'r ail hiraf yn Ne Asia (ar ôl Pont Mahatma Gandhi yn India). Mae'n croesi Afon Jamuna, y fwyaf o dair afon fawr Bangladesh.
Lleolir y bont ar Briffordd Asia a'r Rheilffordd Traws-Asia amcaniedig a fydd, pan orffenir y prosiectau hyn, yn cynnig cysylltiad uniongyrchol ar dir rhwng De-ddwyrain Asia a Gogledd Ewrop (ond ar hyn o bryd erys bylchau amlwg yn y rhwydwaith).
Roedd adeiladu'r bont yn brosiect ryngwladol sylweddol gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud gan gwmnïau o Siapan, De Corea a'r Unol Daleithiau. Mae'n cael ei rheoli gan Awdurdod Pontydd Bangladesh.
Ystadegau
[golygu | golygu cod]Hyd y bont - 4.8 km; lled - 18.5 medr; rhychwantiau - 49; darnau - 1263; pileri - 121; piers - 50; lonydd - 4; traciau rheilffordd - 2? (heb eu cwblhau eto).
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Bengaleg) (Saesneg) Awdurdod Pontydd Bangladesh