Poen seicolegol

Oddi ar Wicipedia

Credir bod yr ansoddair 'seicolegol' yn cwmpasu swyddogaethau eich ymennydd, pen, calon, ac[1] y gellir eu hystyried yn arwydd o'r ffynonellau niferus o boen seicolegol. Cynigiodd Shneidman un ffordd o grwpio’r gwahanol ffynonellau poen hyn, dywedodd fod poen seicolegol yn cael ei ddylanwadu gan anghenion seicolegol rhwystredig.[2] Er enghraifft, yr angen am gariad, ymreolaeth, ymlyniad, a chyflawniad, neu'r angen i osgoi niwed, cywilydd ac embaras. Disgrifiwyd anghenion seicolegol yn wreiddiol gan Henry Murray yn y flwyddyn 1938 fel anghenion sy'n ysgogi ymddygiad dynol. [3] Mynnodd Shneidman fod pobl yn ystyried pwysigrwydd pob 'angen' yn wahanol, sydd yn esbonio pam mae lefel poen seicolegol pawb yn wahanol pan yn gwynebu'r un angen rhwystredig. Mae persbectif hwn o angen yn cyd-fynd â disgrifiad Patrick David Wall o boen corfforol sy'n dweud bod poen corfforol yn dynodi cyflwr angen llawer mwy na phrofiad synhwyraidd. [4]

Mewn meysydd seicoleg gymdeithasol a seicoleg personoliaeth, defnyddir y term poen cymdeithasol i ddynodi poen seicolegol a achosir gan niwed neu fygythiad i gysylltiad cymdeithasol; mae profedigaeth, embaras, cywilydd a theimladau yn isdeipiau o boen cymdeithasol.[5]

O safbwynt esblygiadol, mae poen seicolegol yn gorfodi asesiad o broblemau cymdeithasol gwirioneddol neu bosibl a allai leihau ffitrwydd unigolyn er mwyn gallu oroesi.[6] Mae'r ffordd yr ydym yn arddangos ein poen seicolegol yn gymdeithasol (er enghraifft, crio, gweiddi, cwyno) yn ateb y diben o nodi ein bod mewn angen.

Credir ers tro mai anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD) yw'r anhwylder seiciatrig sydd yb cynhyrchu y boen a'r trallod emosiynol mwyaf dwys yn y rhai sy'n dioddef o'r cyflwr. Mae astudiaethau wedi dangos bod cleifion yn y sefyllfa ffiniol yn profi dioddefaint emosiynol cronig, sylweddol a phoen meddwl. [7][8] Gall cleifion ffiniol deimlo eu bod wedi'u llethu gan emosiynau negyddol, gan brofi galar dwys yn lle tristwch, cywilydd yn lle embaras ysgafn, cythruddo yn lle aflonyddwch, a phanig yn lle nerfusrwydd. [9] Mae pobl â BPD yn dueddol o fod yn sensitif i deimladau o wrthodiad, unigrwydd a methiant canfyddedig. [10] Mae clinigwyr a lleygwyr fel ei gilydd wedi gweld yr ymdrechion enbyd i ddianc rhag profiadau mewnol goddrychol y cleifion hyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Psychogenic pain-what it means, why it does not exist, and how to diagnose it" (yn en). Pain Medicine 1 (4): 287–94. Rhagfyr 2000. doi:10.1046/j.1526-4637.2000.00049.x. PMID 15101873.
  2. "Appendix A Psychological Pain Survey". The Suicidal Mind (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Rhydychen. 1996. t. 173. ISBN 9780195118018.
  3. Explorations in personality (yn Saesneg) (arg. 70). Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. 2008. ISBN 978-0-19-530506-7.
  4. "On the relation of injury to pain" (yn en). Pain 6 (3): 253–64. 1979. doi:10.1016/0304-3959(79)90047-2. PMID 460933.
  5. "Social Pain and Hurt Feelings". Cambridge Handbook of Personality Psychology (yn Saesneg). Caergrawnt: Cambridge University Press. 2009. ISBN 9780521680516.
  6. "The Evolution of Psychological Pain". Sociobiology and the Social Sciences. Lubbock, Texas: Gwasg Prifysgol Texas Tech. 1989. ISBN 978-0-89672-161-6.
  7. "Enhanced 'Reading the Mind in the Eyes' in borderline personality disorder compared to healthy controls". Psychological Medicine 39 (12): 1979–88. Rhagfyr 2009. doi:10.1017/S003329170900600X. PMC 3427787. PMID 19460187. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3427787.
  8. Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM-IV) (yn Saesneg) (arg. 4th). Washington, DC: American Psychiatric Association. 1994. ISBN 978-0-89-042061-4.
  9. Cognitive-behavioral treatment of borderline personality disorder. Efrog Newydd: Guilford Press. 1993. t. 44. ISBN 978-0-89862-183-9.
  10. "Aversive tension in patients with borderline personality disorder: a computer-based controlled field study" (yn en). Acta Psychiatrica Scandinavica 111 (5): 372–9. Mai 2005. doi:10.1111/j.1600-0447.2004.00466.x. PMID 15819731.