Pod Pedwar a Chwech

Oddi ar Wicipedia

Podlediad criced yn y Gymraeg yw 'Pod Pedwar a Chwech'. Cafodd ei sefydlu fel prosiect annibynnol gan Alun Rhys Chivers a Daniel Johnson, dau sy'n gweithio i gwmni Golwg. Mae'n cael ei ddisgrifio gan y sylfaenwyr fel podlediad criced Cymraeg sy'n rhoi sylw i bopeth "o Bacistan yn erbyn Bangladesh i Grymych yn erbyn Hwlffordd".

Y bwriad oedd lansio'r podlediad yn llawn ar ddechrau'r tymor criced, ond yn dilyn gohirio'r tymor yn sgil y coronafeirws, penderfynwyd lansio tudalennau Facebook, Twitter ac Instagram yn gyntaf a'r podlediad yn llawn pan fyddai'r tymor criced yn dechrau.