Pippa Britton

Oddi ar Wicipedia
Pippa Britton
Ganwyd27 Mai 1963 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethsaethydd Edit this on Wikidata

Saethwr Cymreig yw Pippa Britton, OBE (ganwyd 27 Mai 1963) sy wedi cystadlu dros Gymru a Phrydain Fawr yn y gorffennol. Hi yw'r saethwr benywaidd Cymreig mwyaf llwyddiannus erioed.[1] Mae hi'n Is-Gadeirydd Chwaraeon Cymru ac yn gyn-Gadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru.[2]

Cafodd ei geni fel Philippa Ribbans ym Mro Morgannwg ac mae'n dioddef o spina bifida. Cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Iwerydd. Mae hi'n byw yng Nghasnewydd gyda'i gŵr Nigel Britton. Dyfarnwyd yr OBE iddi yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2023 "am ei gwasanaeth i chwaraeon".[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pippa Britton - home". Pippa Britton (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mehefin 2023.
  2. "Aelodau Bwrdd". Chwaraeon Cymru. Cyrchwyd 27 Mehefin 2023.
  3. "Derbynwyr o Gymru yn cael eu cydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd cyntaf y Brenin". www.gov.uk. 16 Mehefin 2023. Cyrchwyd 26 Mehefin 2023.