Pierre Richard
Gwedd
| Pierre Richard | |
|---|---|
| Ffugenw | Pierre Richard |
| Ganwyd | Pierre-Richard Maurice Charles Léopold Defays 16 Awst 1934 Valenciennes |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, digrifwr, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, bywgraffydd |
| Adnabyddus am | Le Grand Blond Avec Une Chaussure Noire, Le Retour Du Grand Blond, La Chèvre, Les Compères, Les Fugitifs |
| Plant | Olivier Defays |
| Perthnasau | Léopold Defays |
| Gwobr/au | Officier de la Légion d'honneur, Officier de l'ordre national du Mérite |
| Gwefan | https://www.pierre-richard.fr/ |
Actor o Ffrainc yw Pierre Richard Charles Léopold Defays (ganwyd 16 Awst 1934).[1][2]
Ganed Pierre Richard yn ninas Valenciennes, Ffrainc. I ddechrau, bu'n gweithio yn y theatr, lle bu'n perfformio ar y cyd ag Antoine Bourseiller, yn ddiweddarach yn cabarets Paris, ee l'Écluse, lle bu'n cydweithio â Victor Lanoux. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf mewn ffilm yn 1967 pan gafodd ran fechan yn Alexandre Le Bienheureux gan Yves Robert. Un o'i rolau enwocaf oedd yn yn y ffilm 1972 Le Grand Blond Avec Une Chaussure Noire. Yn 2006, derbyniodd wobr ffilm César er anrhydedd am waith oes.[3]

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Pierre Richard - Biographie - Colisée de Roubaix". www.coliseeroubaix.com. Cyrchwyd 2023-07-08.
- ↑ Média, Prisma (2023-02-03). "Pierre Richard - La biographie de Pierre Richard avec Voici.fr". Voici.fr (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2023-07-08.
- ↑ "Pierre Richard". Premiere.fr (yn Ffrangeg). 1934-08-16. Cyrchwyd 2023-07-08.