Pethau Bychain

Oddi ar Wicipedia

Mae Pethau Bychain yn ddiwrnod i ddathlu'r iaith Gymraeg ar-lein ac i annog mwy o bobl i gymeryd rhan yn y diwylliant digidol Cymraeg. Bwriad y diwrnod yw annog mwy o bobl i greu fideos, podlediadau, blogio neu ysgrifennu e-farddoniaeth.[1] Ar 3 Medi, 2010, cynhaliwyd y diwrnod cyntaf.

Daeth y syniad o gael diwrnod Pethau Bychain o ddiwrnod Ada Lovelace. Sefydlwyd y diwrnod fel menter wirfoddol a chydweithredol gan nifer o bobol oedd yn weithgar arlein drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ple ddigidol i Gymry Cymraeg Gwefan Newyddion y BBC. 03-09-2010. Adalwyd ar 07-09-2010

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.