Pentti Lund
Gwedd
| Pentti Lund | |
|---|---|
| Ganwyd | 6 Rhagfyr 1925 Karijoki |
| Bu farw | 16 Ebrill 2013 o strôc Thunder Bay |
| Dinasyddiaeth | Y Ffindir |
| Galwedigaeth | chwaraewr hoci iâ, newyddiadurwr |
| Pwysau | 185 pwys |
| Gwobr/au | Calder Memorial Trophy |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Boston Bruins, New York Rangers |
| Safle | forward |
| Gwlad chwaraeon | Y Ffindir |
Chwaraewr hoci iâ Ffinnaidd-Ganadaidd oedd Pentti Alexander Lund (6 Rhagfyr 1925 – 16 Ebrill 2013).[1] Lund oedd yr ail Ffiniad i chwarae yn yr NHL; Al Pudas oedd y cyntaf, gyda'r Toronto Maple Leafs yn nhymor 1926–7.
Ganwyd yn Karijoki, y Ffindir, a symudodd ei deulu i Port Arthur, Ontario, pan oedd yn 6 oed. Chwaraeodd Lund i'r Boston Bruins a'r New York Rangers. Ym 1962 ymunodd â'r Daily-Times Journal yn Ontario a daeth yn olygydd chwaraeon y papur newydd hwnnw. Bu farw yn Thunder Bay, Ontario, o strôc.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 (Saesneg) Goldstein, Richard (18 Ebrill 2013). Pentti Lund, First Finn to Star in the N.H.L., Dies at 87. The New York Times. Adalwyd ar 19 Ebrill 2013.