Pensaerniaeth data

Oddi ar Wicipedia

Mewn technoleg gwybodaeth, mae pensaernïaeth data yn cynnwys modelu data, polisïau, rheolau neu safonau'r data a gesglir, a sut y caiff ei gasglu, ei storio, ei drefnu, ei integreiddio, a'i ddefnyddio mewn systemau data o fewn cwmniau a sefydliadau.[1]

Fel arfer, mae pensaernïaeth data yn gosod y safonau ar gyfer holl systemau data fel model o'r rhyngweithio rhwng y systemau data hynny. Dylai integreiddio data, er enghraifft, ddibynnu ar safonau pensaernïaeth data gan fod integreiddio data yn gofyn am ryngweithio data rhwng dwy system ddata neu ragor. Mae pensaernïaeth data, yn rhannol, yn disgrifio'r strwythurau data a ddefnyddir gan feddalwedd busnes a'i rhaglenni cyfrifiadurol. Mae pensaernïaeth data yn mynd i'r afael â data a storiwyd a data a ddefnyddir o ddydd i ddydd. Disgrifia hefyd sut sut mae data'n cael ei brosesu, ei storio a'i ddefnyddio mewn system wybodaeth. Mae'n darparu meini prawf ar gyfer gweithrediadau prosesu data er mwyn ei gwneud hi'n bosibl dylunio llif data a hefyd rheoli llif y data o fewn y system.

Gelwir y person sy'n gyfrifol am weithredu y drefn bensaernïol hon yn "bensaer data". Ystyrir tri pheth allweddol:

  1. y cysyniad gwreiddiol y tu ôl i amryw endidau'r cwmni neu'r sefydliad
  2. y rhesymeg y tu ôl i sut mae'r gwahanol rannau'n perthyn i'w gilydd, ac
  3. agwedd ffisegol y gwahanol nodweddion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. What is data architecture GeekInterview, 2008-01-28, accessed 2011-04-28