Peiriant TENS

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Peiriant Tens

Ysgogydd Nerfol Trydanol Trawsgroenol yw peiriant TENS (Saesneg:Transcutaneous electrical nerve stimulation). Mae trawsgroenol yn golygu 'drwy'r croen'. Mae peiriannau TENS yn cyflenwi pylsiau bach trydanol i'r corff drwy electrodau a osodir ar y croen. Credir bod peiriannau TENS yn effeithio ar y ffordd mae signalau poen yn cael eu hanfon i'r ymennydd. Mae signalau poen yn cyrraedd yr ymennydd drwy'r nerfau a madruddyn y cefn. Os gellir blocio signalau poen yna bydd yr ymennydd yn derbyn llai o signalau o ffynhonnell y boen. Yna gall unigolion deimlo llai o boen. [1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]