Paul Badham
Mae’r Athro Paul Badham yn Athro emeritws Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant.
Astudiodd Athro Badham Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac athroniaethau crefydd ym Mhrifysgolion Rhydychen (yn dechrau yng Ngholeg yr Iesu yn 1962) a Chaergrawnt, a chafodd PhD oddi wrth Brifysgol Birmingham.[1] Hyfforddodd e am offeiriadaeth yn Westcott House a gweithiodd e fel curad ym Mirmingham am bum mlynedd cyn cymryd swydd fel darlithydd yn Llanbedr Pont Steffan yn 1973. Cafodd ei benodi’n Athro yn 1991 ac mae e wedi gweithio fel Pennaeth Adran, Pennaeth yr Ysgol a Deon y Gyfadran Diwinyddiaeth. Roedd e’n Gyfarwyddwyr ar yr Alister Hardy Religious Experience Research Centre o 2002 hyd at 2010.
Mae e’n Is-lywydd Modern Church, noddwr Dignity in Dying, a Chymrawd o Gymdeithas Frenhinol Meddygaeth. Roedd e’n olygydd Modern Believing a Chymrawd Ymchwil Hŷn Canolfan Wyddoniaeth a Chrefydd Ian Ramsey ym Mhrifysgol Rhydychen.[2]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Making Sense of Death and Immortality (SPCK, 2013).
- A John Hick Reader (Wipf & Stock, 2011).
- Is there a Christian Case for Assisted Dying? (SPCK, 2009).
- The Contemporary Challenge of Modernist Theology (University of Wales Press, 1998).
- Facing Death, gyda Paul Ballard (University of Chicago Press, 1996).
- Death and Immortality in the Religions of the World, gyda Linda Badham (Paragon House, 1987).
- Christian Beliefs about Life after Death (MacMillan, 1976).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Appointments 1992. Cofnodion Coleg yr Iesu: 54. 1993/4.
- ↑ "Proffil ar wefan Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-04. Cyrchwyd 2014-01-10.