Parc Treftadaeth Ferrymead
Gwedd
![]() | |
Math | amgueddfa awyr agored ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Ferrymead Regional Park ![]() |
Lleoliad | Christchurch ![]() |
Sir | Canterbury Region ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 43.5673°S 172.7022°E ![]() |
![]() | |
Mae Parc Treftadaeth Ferrymead yn amgueddfa ger Christchurch, ar Ynys y De, Seland Newydd. Agorwyd y rheilffordd gyntaf yn Seland Newydd ym 1863 rhwng Ferrymead a Christchurch.[1]. Ysbrydolwyd y parc gan y rheilffordd, ac mae rheilffordd y parc treftadaeth yn dilyn rhan o’r hen reilffordd. Mae’r parc yn cynnwys adeiladau o’r 1900au cynnar; mae ysgol, eglwys, gorsaf reilffordd, popty, siop argraffu, sinema, swyddfa’r post, bythynod, gefail, stablau, a siopau eraill. Mae tramffordd, awyrennau a cherbydau, ac mae amryw gymdeithasau’n trefnu’r atyniadau gwahanol.[2]
Cymdeithasau
[golygu | golygu cod]- Canolfan Canterbury dros ffotograffiaeth a ffilm hanesyddol
- Cymdeithas Reilffordd Canterbury
- Grwp Cludiant Diesel Cyf
- Cymdeithas Awyrennol Ferrymead Cyf
- Cymdeithas Clydesdales Ferrymead Cyf
- Amgueddfa Cludiant Ffordd Ferrymead Cyf
- Cymdeithas Hanesyddol Post a Theligraff Ferrymead Cyf
- Cymdeithas Argraffu Ferrymead Cyf
- Cymdeithas reilffordd 2 droedfedd Ferrymead Cyf
- Cymdeithas Gwasanaethau Tân Cyf
- Ffrindiau Brawdliaeth Ferrymead Cyf
- Clwb rheilffordd fodel Garden City Cyf
- Cymdeithas Stiwdios Heathcote Cyf
- Treftadaeth Ieunctid Cyf
- Clwb Llewod Ferrymead Cyf
- Cymdeithas Cadwriaeth Radio Seland Newydd (Ferrymead) Cyf
- Cymdeithas Hanes Gwladol Cyf
- Cymdeithas Hanesyddol Tramffyrdd Cyf
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y parc treftadaeth
- ↑ "Gwefan cinch.org.nz". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-24. Cyrchwyd 2018-10-18.