Pangu

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Darlun o Pangu yn y gwyddoniadur Sancai Tuhui (tua 1607).

Y bod cyntaf a chreawdwr y byd yn ôl mytholeg Tsieineaidd yw Pangu (Tsieineeg syml: 盘古; Tsieineeg draddodiadol: 盤古;ceir ffurfiau Rhufeinig eraill megis Pan Gu a P'an Ku). Pangu yw'r brif chwedl o gosmogoni'r Tsieineaid cynnar, ac mae'n debyg fe'i datblygodd o fytholeg yr oes gyn-Fwdhaidd. Dyddia'r straeon cynharaf o'r 3edd i'r 6g. Ffigur Daoaidd yw Pangu yn bennaf, ond sonir amdano hefyd ym mytholeg Fwdhaidd y Tsieineaid. Ceir amryw o ffynonellau sy'n anghytuno ar fanylion y chwedl, ond ym mhob un Pangu sy'n gyfrifol am wahanu'r ddaear o'r nef, gosod y sêr a'r planedau yn y wybren, a siapio'r moroedd, y dyffrynoedd a'r mynyddoedd. Yn unol â'r traddodiad Daoaidd, defnyddiodd Pangu egwyddor yinyang i greu'r bydysawd.

Dywed iddo dyfu o wy yn y caos cychwynnol, nes iddo ddeffro ac ymestyn ei hun, gan dorri'r wy. Mae'r wy cosmig yn thema sy'n gyffredin i nifer o fythau'r creu ar draws y byd. Cawr oedd Pangu, a chanddo dau gorn, dau ysgithr, a chorff blewog.[1] Cododd rhannau ysgeifn yr wy yn yr awyr, a ffurfiodd y rhannau trymion y ddaear. Noda cychwyn yr yin a'r yang, grymoedd croes y bydysawd, gan y broses hon. Tyfodd Pangu tua 10 troedfedd yn dalach pob diwrnod, am 18,000 o flynyddoedd, gan wthio'r awyr uwchben y ddaear. Treuliodd ei oes yn siapio'r byd gyda'i offer, nes iddo gymryd ei ffurf bresennol. Wedi blino, aeth Pangu i gysgu a bu farw.[2] Dyma'r hanes a geir yn y testun enwocaf sy'n adrodd chwedl Pangu, Sanwu Liji (3g).[3]

Mewn nifer o straeon animistaidd, daeth darnau'i gorff yn rhannau'r bydysawd wedi ei farwolaeth. Ffurfiodd ei esgyrn a'i ddannedd y creigiau a'r metelau; ei waed yr afonydd a'r môr; ei wallt y sêr; blew ei gorff y planhigion; ei lygaid y lleuad a'r yr haul; ei anadl y gwynt a'r cymylau; ei lais y taranau; ei wythiennau y ffyrdd a'r llwybrau; ei chwys y glaw a'r gwlith; a'i gnawd y pridd.[1][2] Yn ôl hanes y Shuyi Ji (6g) a thestunau eraill, trodd ei ben, breichiau, traed ac ystumog yn fynyddoedd sanctaidd sy'n marcio ffiniau'r byd.[2][3] Dywed ambell chwedl i fodau dynol esblygu o'r chwain ac arfilod eraill a heigiodd ar gorff Pangu.[1] Yn ôl mythau eraill, creodd Pangu fodau dynol o glai a'u gadael i'w crasu dan yr haul. Pan dechreuodd glawio, brysiodd Pangu i orchuddio'r cyrff clai, gan dorri rhai ohonynt sy'n esbonio pam bod rhai pobl yn anabl.[2]

Cawr oedd Pangu, ond fe'i bortreadir gan amlaf mewn celfyddyd Tsieina yn ddyn bach yn gwisgo croen arth neu ddail amdano, ac yn dal naill ai morthwyl a chŷn neu'r wy cosmig. Weithiau fe'i ddangosir yn defnyddio'i offer i greu'r byd, gyda chymorth y Pedwar Creadur Rhadlon: y Qilin (ungorn), y Xuanwu (crwban), y Fenghuang (ffenics), a'r Ddraig.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Pan Gu. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 (Saesneg) "Pan Gu" yn Myths and Legends of the World (Macmillan, 2001). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 26 Rhagfyr 2016.
  3. 3.0 3.1 David Leeming. A Dictionary of Asian Mythology (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001), t. 35.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: