Pan (lloeren)
Gwedd
| Enghraifft o: | lleuad o'r blaned Sadwrn, shepherd moon, lleuad arferol |
|---|---|
| Màs | 5 ±2 |
| Dyddiad darganfod | 22 Awst 1981 |
| Cysylltir gyda | Encke Gap |
| Echreiddiad orbital | 0 ±5.4e-06 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0kjwk |
Pan yw'r fwyaf mewnol o loerennau Sadwrn a wyddys:
- Cylchdro: 133,583 km oddi wrth Sadwrn
- Tryfesur: 20 km
- Cynhwysedd: ?

Roedd y duw Pan yn dduw coedwigoedd, caeau a phreiddiau ym mytholeg Roeg. Roedd ganddo dorso a phen dynol gyda chlustiau, cyrn a choesau gafr.
Darganfuwyd y lloeren Pan gan Mark R. Showalter ym 1990 o ffotograffau Voyager.
Mae Pan yn cylchio o fewn gwahaniad Encke ym modrwy A Sadwrn.
Mae lloerennau bach sy'n agos i'r modrwyau'n cynhyrchu patrymau o donnau yn y modrwyau. Cyn darganfod Pan, roedd dadansoddiad o'r patrymau ar gyrion modrwy A Sadwrn wedi rhagweld maint a lleoliad lloeren fach. Cafodd Pan ei darganfod trwy ailarchwilio ffotograffau 10 mlwydd oed Voyager o'r lleoliad.
Mae'n bosibl bod yna chwaneg o loerennau o fewn modrwyau Sadwrn sydd eto heb eu darganfod.