Palas Herrenhausen
Mae Palas Herrenhausen (Almaeneg: Schloss Herrenhausen) yn gyn-breswylfa frenhinol y Teulu Hanover yn ardal Herrenhausen yn ninas Hanover yn yr Almaen. Mae'n ganolbwynt Gerddi Herrenhausen.
Dinistriwyd y palas gan gyrch bomio Prydeinig ym 1943, ac ailadeiladwyd y palas rhwng 2009 a 2013. Heddiw mae'n amgueddfa ac arddangosfa.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd yn wreiddiol yn maenordy o 1640, yna cafodd ei ehangu fesul cam o 1676 ymlaen, yn ymddwyn fel tŷ haf. Mae wedi'i leoli ychydig gilometrau y tu allan i'r ddinas a'r Leineschloss canolog. Ym 1683 comisiynodd Sophia o Hanover y garddwr Ffrengig Martin Charbonnier[1] i ehangu'r ardd yn null Versailles, i ffurfio'r "Grosser Garten" 50 hectar. Cynlluniodd gŵr Sophia, Ernest Augustus, Etholwr Brunswick-Lüneburg, balas baróc mawr yn ei le, a dechreuodd yr adeiladu gyda'r "Galerie", ond gwnaeth eu mab, yr etholwr George Louis (a ddaeth i orsedd Prydain ym 1714 fel Brenin Siôr I) rhoi’r gorau i brosiect adeiladu’r palas a chanolbwyntio ar ychwanegu ffynhonnau ac arddangosfeydd dŵr i’r ardd.
Cynlluniodd y brenin nesaf, George II, palas newydd unwaith eto, er mwyn iddo fod mewn cyfrannedd well â'r "Grosser Garten", ond ni ddaeth unrhyw beth ohoni. Moderneiddiodd ei olynydd George III y palas mewn arddull neoglasurol gan Georg Ludwig Friedrich Laves, er na ymwelodd y brenin â Herrenhausen erioed.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dioddefodd Palas Herrenhausen ddifrod aruthrol mewn cyrch bomio gan Brydain ar 18 Hydref 1943.
Cafodd adfeilion y palas eu rhwygo i lawr bron yn llwyr ar ôl y rhyfel; achubwyd y grisiau allanol a oedd unwaith yn arwain i fyny at y fynedfa, a'i symud wrth ymyl adeilad yr Orendy, lle y maen nhw heddiw. Gwerthodd y Tywysog Ernest Augustus o Hanover ei eiddo weddill yng Ngerddi Herrenhausen ym 1961, ond cadwodd y Princely House cyfagos, palas bach a adeiladwyd ym 1720 gan George I ar gyfer ei ferch Anna Louise. Bellach mae'n gartref preifat i'w ŵyr Ernest Augustus, ynghyd â Chastell Marienburg.
Yn 2009, penderfynodd dinas Hanover ailadeiladu'r palas. Derbyniodd Sefydliad Volkswagen y plot a noddi'r ailadeiladu. Ailagorwyd y palas ar 18 Ionawr 2013[2] mewn seremoni a fynychwyd gan Eu Huchelderau Brenhinol, y Dywysoges Beatrice o Efrog a'r Dywysoges Eugenie o Efrog, yn ogystal â'r Tywysog Ernst August o Hanover.
Mae'r palas baróc yn gartref i'r Amgueddfa Schloss Herrenhausen[3] gyda chaffeteria a siop lyfrau, yn ogystal ag arddangosfeydd a lefydd chyfarfod a noddir gan Sefydliad Volkswagen.
Gerddi[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gerddi helaeth y palas, sy'n ymestyn y tu hwnt i'r "Grossen Garten" gwreiddiol, yn enghraifft bwysig o ddylunio baróc a ddiweddarach dylunio gardd. Maent yn cynnwys nifer o adeiladau gardd pwysig hanesyddol. Cafodd y gerddi eu hadfer yn dilyn difrod yr Ail Ryfel Byd, a daethant yn adnodd hamdden pwysig i ddinas Hanover, gydag ychwanegiadau newydd gan gynnwys acwariwm.
Genedigaethau, marwolaethau a chladdedigaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Brenin Siôr II o Brydain Fawr ym Mhalas Herrenhausen ym 1683. Ganwyd tair o'i ferched yno:[4]
- Anne, y Dywysoges Frenhinol a Thywysoges Oren
- Y Dywysoges Amelia o Brydain Fawr
- Y Dywysoges Caroline o Brydain Fawr
Bu farw Ernest Augustus, Etholwr Brunswick-Lüneburg, taid George II, ym Mhalas Herrenhausen ym 1698.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd symudwyd corff Siôr I, brenin Prydain Fawr, ynghyd â'i rieni, o gapel Leineschloss yn Hanover, a'u hailosod yn "Welfenmausoleum" y 19eg ganrif, gan Ernest Augustus, Brenin Hanover, yn y "Berggarten" yn Herrenhausen.[5][6]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ ArtNet: Portrait of Martin Charbonnier
- ↑ Herrenhausen Palace and Museum
- ↑ Museum Schloss Herrenhausen
- ↑ Van der Kiste, John (1997). George II and Queen Caroline. Stroud, Gloucestershire: Sutton Publishing. ISBN 0-7509-1321-5.
- ↑ Weir, Alison (1996). Britain's Royal Families: The Complete Genealogy, Revised edition. Random House. tt. 272–276. ISBN 0-7126-7448-9.
- ↑ Helmut Knocke and Hugo Thielen (2007). Mausoleum, in: Dirk Böttcher, Klaus Mlynek (Eds.): Hannover Kunst- und Kultur-Lexikon. Handbuch und Stadtführer. Springe: zu Klampen Verlag. ISBN 978-3-934920-53-8 (p.92)