Orbital atomig

Oddi ar Wicipedia
Orbital atomig
Enghraifft o'r canlynolmath o ffwythiant mathemategol Edit this on Wikidata
Mathffwythiant, orbital Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffwythiant mathemategol sy'n disgrifio ymddygiad tonnol naill ai un electron neu bâr o electronau mewn atom ydy orbital atomig.[1] Mae'r ffwythiant hwn yn gallu cael ei ddefnyddio i gyfrifo'r posibilrwydd o ddod o hyd i electron mewn unrhyw adran o gwmpas niwclews yr atom.

Mae pob orbital mewn atom yn cael ei nodweddu gan set unigryw o werthoedd y tri rhif cwantwm n, ℓ, ac m, sy'n cyfateb i egni'r electron, momentwm onglaidd a chydran fector momentwm onglaidd, yn ôl eu trefn. Gall unrhyw orbital gael ei feddiannu gan uchafswm o ddau electron, pob un â'i rhif cwantwm sbin ei hun. Mae'r enwau orbital s, p, d ac f yn cyfeirio at orbitalau gyda rhif cwantwm momentwm onglaidd (ℓ) o 0, 1, 2 a 3 yn ôl eu trefn. Mae'r enwau hyn, ynghyd â'r gwerth n, yn cael eu defnyddio i ddisgrifio ffurfweddau electronau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Orchin, Milton; Macomber, Roger S.; Pinhas, Allan; Wilson, R. Marshall (2005). Atomic Orbital Theory (PDF).
Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.