Neidio i'r cynnwys

O'r Nyth (albwm)

Oddi ar Wicipedia
O'r Nyth
Albwm stiwdio
Rhyddhawyd Rhagfyr 2013
Label Nyth

Albwm aml-gyfrannog gan artistiaid Cymraeg yw O'r Nyth. Rhyddhawyd yr albwm yn Rhagfyr 2013 ar y label Nyth.

O'r Nyth oedd ymgais gyntaf hyrwyddwyr gigs Nyth i gyhoeddi record. Mae Nyth yn adnabyddus am lwyfannau gigs gydag artistiaid eclectig a dyma’n union sydd ar y record. Mae'n cynnwys y caneuon ‘Ebol Ebol’ gan Plyci, ‘Rhywbeth Gwell’ gan Osian Howells, a’r gân ‘Hardd’, cyfraniad Casi Wyn.

Dewiswyd O'r Nyth yn un o ddeg albwm gorau 2013 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]