Northern Soul
Dyddaid | 1970au |
---|---|
Lleoliad | Gogledd a chanolbarth Lloegr, Gogledd Cymru |
Gwreiddiau | Cerddoriaeth ddu Americanaidd Soul, R&B, Mød |
Mae Northern Soul yn is-ddiwylliant cerddorol a dawns yn seiliedig ar recordiau gan grwpiau a chantorion Americanaidd duon. Fel arfer mae recordiau Northern Soul o'r 1960au gyda churiad cyflym yn addas ar gyfer dawnsio egnïol ac acrobataidd.
Roedd yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc, dosbarth gweithiol yng Ngogledd a Chanolbarth Lloegr a Gogledd Cymru yn y 1970au.
Datblygiad
[golygu | golygu cod]Datblygodd Northern Soul ar ddiwedd y 1960au. Arhosodd recordiau gyda geiriau ag enaid emosiynol, curiad dawns trwm a tempo cyflym yn boblogaidd yng nghlybiau dawns Gogledd Lloegr. Ni dilynwyd y ffasiynau diweddaraf wrth i steil cerddoriaeth Soul Americaniad newid gyda ffasiynau tua Funk a Disco.
Defnyddiwyd yr enw Northern Soul ar ddechrau'r 1970au i ddisgrifio'r dewis o recordiau a'r steil o ddawnsio mewn clybiau fel The Torch yn Stoke-on-Trent, y Twisted Wheel ym Manceinion, Blackpool Mecca ac yn bennaf The Wigan Casino.
Daeth recordiau sengl 7 modfedd prin o dechrau'r 1960au gan labeli bach nad oedd wedi bod yn llwyddiannau masnachol yn gasgliadwy iawn. Cystadlodd DJ's y clybiau i ddod o hyd i recordiau nad oedd neb arall wedi llwyddo cael gafael arnynt.[1][2][3]
Dawnsio
[golygu | golygu cod]Datblygodd steil o ddawnsio acrobataidd iawn wedi'i ysbrydoli gan grwpiau a chantorion fel Little Anthony & the Imperials a Jackie Wilson. Roedd y dawnswyr yn dawnsio'n unigol heb bartner neu hyd yn oed cymryd fawr o sylw o ddawnswyr o'u hamgylch. Yn wahanol i'r arfer ar gyfer pobl ifanc, y dawnsio oedd peth pwysicach y noson yn hytrach na chyfarfod cariadon. Hefyd yn groes i'r arfer, dynion oedd y dawnswyr mwyaf brwdfrydig a'r mwyafrif presennol.
Roedd sbinio yn rhan bwysig o'r steil dawns gyda'r dawnswyr gorau'n gwneud ciciau uchel, fflipiau a dropio i'r llawr yn acrobataidd iawn. Roedd y cyffur amffetamin (speed) yn gymorth i lawer o'r dawnswyr gael egni ychwanegol drwy'r nos a'r bore canlynol (roedd nosweithiau'r Wigan Casino, er enghraifft, yn mynd ymlaen tan 8am y bore canlynol).[4]
Dillad
[golygu | golygu cod]Roedd steil penodol o wisgo gyda dillad llydan yn gysylltiedig â'r gerddoriaeth. Y mwyaf nodweddiadol o'r steil oedd trowsus llydan 'Oxford Bags' - hyd at 30 modfedd o led. Hefyd roedd festiau, crysiau 'Ben Sherman', cotiau a sgertiau hir ac esgidiau lledr 'brogue' yn cael eu gwisgo. Roedd yr esgidiau 'brogues' gyda gwadnau lledr yn arbennig o addas ar gyfer llithro'r traed ar y llawr dawns bren. Weithiau roedd powdr talc yn cael ei daflu dros y llawr i'w wneud yn fwy llithrig.
Gan fod y nosweithiau dawnsio yn parhau dros nôs tan y diwrnod wedyn roedd y dawnswyr yn aml yn mynd a bag ar gyfer newid dillad gyda nhw. Addurnwyd y bagiau gyda bathodynnau crwn gydag enwau'r wahanol glybiau a symbol y dwrn du.
Adfywiad
[golygu | golygu cod]Erbyn diwedd y 1970au roedd Northern Soul yn colli'i boblogrwydd a chynhaliwyd noson olaf y The Wigan Casino ym 1981. Mae'r gerddoriaeth a'r steil dawns wedi mwynhau adfywiad o ddiddordeb yn y 21ain ganrif gyda ffilmiau fel Northern Soul (2014) a Soulboy (2010), rhaglenni dogfen, nosweithiau aduniadau ac hyd yn oed sîn Northern Soul ymhlith pobl ifanc yn Japan.[5]
Clasuron Northern Soul - detholiad y DJ Kev Roberts
[golygu | golygu cod]- Do I Love You (Indeed I Do) - Frank Wilson
- Out on the Floor - Dobie Gray
- You Didn't Say a Word - Yvonne Baker
- The Snake - Al Wilson
- Long After Tonight is Over - Jimmy Radcliffe
- Seven Day Lover - James Fountain
- You Don't Love Me - Epitome of Sound
- Looking for You - Garnet Mimms
- If That's What You Wanted - Frankie Beverly & the Butlers
- Seven Days Too Long - Chuck Wood
- The Right Track - Billy Butler
- Stick By Me Baby - Salvadors
- I Really Love You - Tomangoes
- Time Will Pass You By - Tobi Legend
- Landslide - Tony Clarke
- Too Late - Larry Williams & Johnny 'Guitar' Watson
- You Don't Know Where Your Interest Lies - Dana Valery
- Walking Up a One Way Street - Willie Tee
- If You Ever Walk Out of My Life - Dena Barnes
- There's a Ghost in My House - R. Dean Taylor[6]
Dewis DJ Richard Searling o'i hoff recordiau Northern Soul
[golygu | golygu cod]- The Salvadors: Stick By Me Baby - Wiseworld (1967)
- Chubby Checker: You Just Don't Know (What You Do To Me Girl) - Cameo Parkway (1965)
- Linda Jones: I Just Can't Live My Life (Without You Babe) - Warner Seven Arts 45 (1968)
- Gloria Jones: Tainted Love - Champion 45 (1965)
- Yvonne Baker: You Didn't Say A Word - Parkway 45 (1967)
- The Vel Vets: Got To Find Me Somebody - 20th Century 45 (1966)
- Marvin Gaye: Love Starved Heart (It's Killing Me) - Tamla 45 (1966)
- Tony Clarke: Landslide US'- Chess 45 (1966)
- The Charades: The Key To My Happiness - MGM 45 (1968)
- The Dells: Run For Cover - Cadet 45 (1968)[7]
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Wigan Casino yn y 1970au ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=7Ygo4FbVluI
- Northern Soul ar Ynys Môn, ddoe a heddiw, ar YouTube https://www.youtube.com/watch?v=qSBkTlwTPjE
- Noson Northern Soul, Biwmares, 2011 ar Youtube: https://www.youtube.com/watch?v=3E21GMoGNHU
- Noson Northern Soul yn Neuadd y Dref Llandudno, 2008 ar YouTube https://www.youtube.com/watch?v=JJZZzveoY10
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-03. Cyrchwyd 2018-02-16.
- ↑ David Nowell, Too Darn Soulful: The Story of Northern Soul
- ↑ David Nowell The Story of Northern Soul, Anova Books, 1999, ISBN 1907554726, accessed 11 May 2014
- ↑ Andy Wilson. Northern Soul: Music, Drugs and Subcultural Identity
- ↑ http://www.independent.co.uk/travel/asia/japan-northern-soul-music-kobe-club-night-nude-restaurant-o-jays-never-forget-you-gonna-be-a-big-a7990431.html
- ↑ https://www.thoughtco.com/the-great-northern-soul-classic-songs-2523456
- ↑ https://www.manchestereveningnews.co.uk/whats-on/music-nightlife-news/wigan-casino-dj-richard-searling-7952521