Nodyn:Pigion2/Diwrnod 27/10
Gwedd
![Saas Fee](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/33/Saas_Fee_Winter.jpg/390px-Saas_Fee_Winter.jpg)
Saas Fee yw'r prif bentre yn ardal Saastal yn Alpau'r Swistir. Lleolir Saastal yng nghanton y Valais. Mae'r pentre yn un hanesyddol yn niwylliant y Swistir efo nifer o adeiladau'n dyddio nôl dros 100 mlynedd. Ar y llaw arall mae Saas Fee yn gyrchfan chwaraeon gaeaf tu hwnt o fodern efo 22 esgynydd sy'n cynnwys gondelau, esgynfeydd cadair a'r rheilffordd fynydd enwog, y Metro Alpin.