Nichan Iftikhar

Oddi ar Wicipedia
Croes Mawreddog, miniatur, a swyddog

Urdd anrhydeddus Otomanaidd a Tiwnisia, a sefydlwyd ym 1835 gan Al-Mustafa ibn Mahmud (Bey Tiwnisia), yw'r Nichan Iftikhar, Atiq Nishan-i-Iftikhar neu Nişan-i İftihar (Cymraeg: "Urdd Gogoniant"), gwobrwywyd yr anrhydedd hyd i rôl cyfansoddiadol y Bey gael ei ddiddymu ar ôl 1957.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Bu'r urdd yn bodoli ar ddau ffurf: yn cyntaf o'i greadigaeth ym 1835 a'r ail wedi 1859. Gwobrwywyd mewn un dosbarth yn unig i gychwyn, cyn i'r urdd gael ei ail-drefnu a gwobrwywyd mewn pum dosbarth o 1843 a chwech o 1882:

  1. Croes Mawreddog
  2. Swyddog Mawreddog
  3. Cadlywydd
  4. Swyddog
  5. Marchog Dosbarth 1af
  6. Marchog 2il Ddosbarth

Gwobrwywyd yr anrhydedd i bobl â dinasyddiaeth Ffrengig, dinasoedd (megis Verdun), ac estroniaid eraill ô nôd mewn cysylltiad â Thiwnisia. Rhoddwyd gan y Bey o Tunis yn ôl cynigion gan Brif Vizier dinasyddion Tiwnisia, neu fel arall yn ôl cynigion gan gadfridog preswyl Ffrainc (a oedd hefyd yn Weinidog Tramor de facto Twinisia). Ymddangosodd monogram pob Bey yng nghanol y wobr, felly mae'n bosib dyddio'r wobr yn ôl y monogram.

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Cynhyrchwyd y gwobrau o arian fel rheolm gyda phelydrau enamel gwyrdd a choch ar gyfer rhai dosbarthiadau. Ar gefn y rhuban yn ogystal â bwa a modrwy iw hongian, gellir cael enw'r gemydd, dyddiad, ac ysgrifau'r derbyniad. Gwobrwywyd y rhai a ddengys isod gan Ali Muddat ibn al-Husayn Bey (1882–1902).

Mae'r gwobrau a roddwyd gan Muhammad III as-Sadiq Bey (1859–1882) yn dangos y gwahaniaethau y gall ymddangos rhwng y rhai a roddwyd yn ôl cynigion Tiwnisia a Ffrainc:

Testun y diploma[golygu | golygu cod]

Derbynwyd ddiploma gyda'r wobr, dyma ddau ddiploma a wobrwywyd i'r un person ym 1927: