Mynyddoedd Rimutaka

Oddi ar Wicipedia

Mae mynyddoedd Rimutaka ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd, i'r gogledd ddwyrain o Wellington. Mynydd Matthews ydy'r un uchaf, 940 medr uwchben y môr.

Aeth rheilffordd dros y bryniau, yn cynnwys Llethr Rimutaka, lle defnyddiwyd y System Fell. Agorwyd y lein ar 12 Awst 1878. Disodlwyd y Llethr gan Dwnnel Rimutaka ar 30 Hydref 1955, ac mae'r Llethr wedi dod yn llwybr beicio. Mae mwyafrif yr ardal yn rhan o Barc Fforest Rimutaka[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Parc Fforest Rimutaka". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-07. Cyrchwyd 2015-12-18.