Mosg Mawr Kairouan
Gwedd
Math | mosg |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Medina of Kairouan |
Sir | Kairouan |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 35.6814°N 10.1039°E |
Statws treftadaeth | listed monument of Tunisia, rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Mosg hynaf a phwysicaf yn y Maghreb (Gogledd Affrica) yw Mosg Mawr Kairouan. Mae'n sefyll yng nghornel ogledd-ddwyreiniol y medina (hen ddinas) yn ninas Kairouan, canolbarth Tiwnisia.
Fe'i hadnabyddir hefyd fel Mosg Sidi Oqba, er anrhydedd Uqba bin Nafi a sefydlodd Kairouan ac a gododd y mosg gyntaf ar y safle yn y flwyddyn 670. Dinistriwyd yr hen fosg yn gyfangwbl bron ac mae'r rhan fwyaf o'r mosg presennol yn dyddio o gyfnod yr Aghlabiaid (9g).
Fel nifer o fosgiau Tiwnisaidd o'r cyfnod hwnnw, mae'r mosg yn ddigon plaen a llym ei olwg o'r tu allan ond y tu mewn fe'i addurnir yn goeth â mosaics a phileri alabastr.