Mosg Mawr Kairouan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mosg Mawr Kairouan a'i finaret

Mosg Mawr Kairouan yw'r mosg hynaf a phwysicaf yn y Maghreb (Gogledd Affrica). Mae'n sefyll yng nghornel ogledd-ddwyreiniol y medina (hen ddinas) yn ninas Kairouan, canolbarth Tiwnisia.

Fe'i hadnabyddir hefyd fel Mosg Sidi Oqba, er anrhydedd Uqba bin Nafi a sefydlodd Kairouan ac a gododd y mosg gyntaf ar y safle yn y flwyddyn 670. Dinistriwyd yr hen fosg yn gyfangwbl bron ac mae'r rhan fwyaf o'r mosg presennol yn dyddio o gyfnod yr Aghlabiaid (9fed ganrif).

Fel nifer o fosgiau Tiwnisaidd o'r cyfnod hwnnw, mae'r mosg yn ddigon plaen a llym ei olwg o'r tu allan ond y tu mewn fe'i addurnir yn goeth â mosaics a phileri alabastr.