Moel y Waun
Jump to navigation
Jump to search

Ffotograff o Foel y Waun wedi ei dynnu o Foel y Plâs.
Un o Fryniau Clwyd, Sir Ddinbych yw Moel y Waun (neu weithiau Moel y Waen) (Cyfeirnod OS: SJ168534) ac fe saif 412 metr uwch lefel y môr.[1]
Mae tua hanner cilometr i'r gogledd o Foel yr Acre, y bryn deheuol cyntaf o Fryniau Clwyd, a thua cilometr i'r de o Foel y Gelli a Llyn Gweryd. Y pentre agosaf yw Pentrecelyn sydd tua dwy gilometr i'r gorllewin. Ceir dau garnedd hynafol ar y copa, SJ16955324 a SJ16895332.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan ordnancesurvey.co.uk; adalwyd 22 Gorffennaf 2018.
- ↑ Gwefan coflein.gov.uk; adalwyd 22 Gorffennaf 2018.