Moel y Plas
Gwedd
Moel y Plas o Ddyfryn Clwyd, gyda Llyn Gweryd ar y dde | |
| Enghraifft o: | copa, bryn |
|---|---|
![]() | |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Sir Ddinbych |
| Dynodwyr | |
Un o Fryniau Clwyd yw Moel y Plas neu Moel y Plâs (Cyfeirnod OS: SJ170554) ac fe saif 440m metr uwch lefel y môr, tua tair milltir o Ruthun. Mae enw'r foel yn cyfeirio at Blas Llanarmon, rhyw 3 km i'r dwyrain o'r copa, ar lethrau isa'r mynydd.

Wrth ei draed, i'r de o'r copa, gorwedd Llyn Gweryd ac un o'r moelydd lleiaf, Moel y Gelli, ac i'r gogledd saif saif Moel Llanfair; rhwng y ddau ceir Bwlch Ty'n Mynydd. Bwlch y Llyn yw enw'r dyffryn rhwng Moel y Gelli a Moel y Waun a cheir ffordd ar hyd ochr Moel y Gelli o Ddyffryn Clwyd, sef 'y Silff'.
