Mitcheldean

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mitcheldean
St Michael and All Angels Church, Mitcheldean - geograph.org.uk - 808678.jpg
Math Tref, Plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Fforest y Ddena
Daearyddiaeth
Sir Swydd Gaerloyw
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 51.8646°N 2.4904°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04004314 Edit this on Wikidata
Cod OS SO663185 Edit this on Wikidata
Cod post GL17 Edit this on Wikidata

Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, ydy Mitcheldean.[1] Mae'r elfen "Mitchell" yn enw'r dref yn deillio o "Michael", ar ôl Eglwys Sant Mihangel, ar un adeg ei hadeilad mwyaf nodedig. Lleolir y dref ar ymyl ogleddol Fforest y Ddena, ger y ffin â Swydd Henffordd.

Lleolir y plwyf sifil Mitcheldean yn Ardal Fforest y Ddena, ac mae'n cynnwys y pentref Abenhall. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,783.[2]

Yn yr Oesoedd Canol roedd Mitcheldean yn dref farchnad. Wedyn daeth yn gymuned ffyniannus oherwydd y dyddodion mwyn haearn gerllaw. Sefydlwyd gefeiliau a diwydiannau ysgafn eraill yn y dref. Erbyn y 18g roedd yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu pinnau. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, dirywiodd pwysigrwydd y dref, ond yn y 19g tyfodd y dref ar arian a enillwyd gan y diwydiant bragu lleol. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth ffatri llungopiwyr Rank Xerox yn gyflogwr pwysig, gyda thua 5,000 o weithwyr ar ei hanterth, nes iddi gael ei chau o'r diwedd yn 2003 ar ôl cyfnod hir o ddirywiad. Mae llawer o hen safle Rank Xerox (bellach wedi'i hailenwi'n "Vantage Point Business Village") yn cael ei feddiannu gan fusnesau bach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. British Place Names; adalwyd 24 Gorffennaf 2019
  2. City Population; adalwyd 24 Gorffennaf 2019

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]