Menyw ym Merlin

Oddi ar Wicipedia
Menyw ym Merlin
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurMarta Hillers Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1954 Edit this on Wikidata
Genrehunangofiant Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.anonyma.film.de Edit this on Wikidata

Mae'r llyfr Menyw ym Merlin (Almaeneg: Eine Frau in Berlin) yn gofiant anhysbys gan Almaenes. Datgelwyd yn 2003 mai'r newyddiadurwraig Marta Hillers oedd yr awdures. Bu farw yn 2001.

Mae'r dyddiadur manwl yn cwmpasu'r wythnosau rhwng 20 Ebrill a 22 Mehefin 1945, yn ystod cwymp Berlin a'i feddiannu gan y Fyddin Goch. Mae'r awdures yn disgrifio'r troseddu rhywiol rhemp gan filwyr Sofietaidd, gan gynnwys arni hi ei hun, a dull pragmatig y merched o oroesi, gan gymryd swyddogion Sofietaidd yn gariadon yn aml i'w amddiffyn. Ymddangosodd yr argraffiad Saesneg cyntaf 1954 yn yr Unol Daleithiau ac ym Mhrydain yn 1955. Pan gyhoeddwyd yn Almaeneg yn 1959, gaeth y llyfr naill ai' ei "anwybyddu neu wrthod" yn yr Almaen. Gwrthododd yr awdures i gael argraffiad arall yn ystod ei hoes.

Yn 2003, ddwy flynedd ar ôl marwolaeth Hillers, cyhoeddwyd argraffiad newydd o'r llyfr yn yr Almaen, unwaith eto'n ddienw. Cafodd glod beirniadol eang ac roedd ymhlith y gwerthwyr gorau am fwy na 19 wythnos. Achoswyd dadl lenyddol, a chodwyd cwestiynau am ddilysrwydd y llyfr. Cyhoeddwyd y llyfr eto yn Saesneg yn 2005. Fe'i cyfieithwyd i saith iaith arall yn cynnwys Norwyeg a Ffrangeg. Addaswyd y llyfr yn ffilm yn 2008 gan Max Färberböck a'i rhyddhawyd yn yr Unol Daleithiau fel "A Woman in Berlin".

Trosolwg[golygu | golygu cod]

Mae'r cofiant yn disgrifio profiadau personol menyw ddeallus yn ystod meddiannaeth Berlin gan y Sofietaidd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae hi'n disgrifio y milwyr Rwsiaidd yn treisio mewn gangiau ac yn penderfynu ceisio amddiffyn ei hun trwy ffurfio perthynas â swyddog Sofietaidd; gwnaeth merched eraill benderfyniadau tebyg. Disgrifiodd yr awdur ei fod yn "cysgu am fwyd." Roedd yr amodau yn y ddinas yn greulon, gan nad oedd gan fenywod unrhyw amddiffyniad arall yn erbyn ymosodiadau gan filwyr. Nododd Janet Halley fod gwaith Hillers yn herio'r meddwl am drais, gan ei bod weithiau'n awgrymu nad dyma'r peth gwaethaf yng nghyd-destun dinistr rhyfel.

Crynodeb o'r Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r dyddiadur yn dechrau gyda diwedd y rhyfel yn cyrraedd Berlin. Mae artilleri cyson ac mae'r narradur yn byw mewn atig. Cafodd ei fflat gwreiddiol ei fomio a'i ddinistrio. Er ei bod yn crafu byw ar gwponau dogni bwyd tila, mae ei holl feddyliau yn troi o gwmpas bwyd. Mae pawb arall yn y bloc o fflatiau yn treulio eu hamser naill ai yn y llochesi rhag cyrch awyr awyr, neu yn sefyll mewn llinellau ar gyfer bwyd, neu'n cyrchio stociau bwyd. Mae'r adroddwr yn dod i adnabod ei gyd-"breswylwyr ogofâu". Pan fydd bom yn dinistrio ei fflat, mae "gweddw'r fferyllydd" yn caniatáu i'r adroddwr fyw yn ei llety. Yn sydyn ddaeth dawelwch wrth i'r fyddin Rwsiaid cyrraedd eu stryd. Mae'r Rwsiaid yn gosod gwersyll y tu allan ac yn treulio eu dyddiau cyntaf yn cymharu gwylio a beiciau wedi'u dwyn. Yn y pen draw, bydd y milwyr yn mynd i mewn i'r cysgodfannau cyrchoedd awyr ac adeiladau ac islawr yn gofyn am alcohol a dewis menywod i dreisio. Mae'r adroddwr yn siarad Rwsieg ac felly yn gweithio fel cyfieithydd ar gyfer y menywod yn yr selar. Mae'n ceisio darbwyllo'r dynion i beidio â threisio'r merched. Ond ofer bu ei hymdrechion. Mae'r adroddwr yn ystyried ei statws wrth iddi gytuno i gael perthynas rywiol yn gyfnewid am nwyddau ac amddiffyniad. Yn y pen draw, mae Berlin yn ildio'n llwyr ac mae'r milwyr Rwsiaid yn gadael y stryd. Mae'r ddinas yn dechrau cael ei ailadeiladu ac mae merched yr Almaen yn cael eu gorfodi i weithio i glirio'r rwbel ac i chwilio am Sinc. Mae'r adroddwr yn cael ei dynnu i ffwrdd i wneud golchi dillad Wrth i'r hanes dod i ben, mae'r narydd yn darganfod trwy gyfaill bod comiwnydd yn bwriadu cychwyn Gwasg. Mae'r adroddwr yn dechrau gweithioyn ei phriod swydd unwaith eto. Mae Gerd, cyn-cariad o'r cyfnod cyn y rhyfel yn ddychwelyd ac maent yn trafod ei thrais ac ei ystyr. Mae Gerd yn credu ei bod wedi colli ei meddwl ac mae wedi newid fel person. Daw'r cronicl i ben gyda'r awdures yn pendroni am ei pherthynas â Gerd.

Hanes Cyhoeddi[golygu | golygu cod]

Dangosodd Hillers ei llawysgrif i ffrindiau, a threfnodd yr awdur Kurt Marek (CW Ceram) gyfieithu'r llyfr i'r Saesneg, gan James Stern, a'i gyhoeddi yn yr Unol Daleithiau ym 1954. Ysgrifennodd hi hefyd gyflwyniad, dyddiedig Awst 1954. Priododd a symudodd Hillers o'r Almaen i Genefa, y Swistir yn y 1950au a dyna gafodd ei llyfr ei gyhoeddi yn Almaeneg ym 1959 gan gwmni Swis. Cyhoeddwyd yn ddienw, a dyna'r unig 'lyfr' a gyhoeddodd hi. Wedi i Hillers farw yn 2001, ail-gyhoeddwyd y llyfr yn 2003, eto yn ddienw, gan Hans Magnus Enzensberger, bardd a traethodydd enwog. Y tro hwn enillodd y llyfr glod beirniadol eang. Nodwyd "ei dôn laconig a'i ddiffyg hunan-dosturi." Nododd y beirniad Harding fod yr awdures wedi ysgrifennu: "Rwy'n chwerthin yng nghanol yr holl erchylltra hwn. Beth ddylwn i ei wneud? Wedi'r cyfan, dw i'n dal yn fyw, bydd popeth arall yn mynd heibio! " Ers degawdau olaf yr 20g, mae ysgrifenwyr ac haneswyr yr Almaen wedi archwilio dioddefaint eu pobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyhoeddodd Gunter Grass "Crabwalk" am y miloedd o farwolaethau pan gafodd llong llawn ffoaduriaid ei suddo gan long-danfor Rwsiaid, a chyhoeddwyd W.G. Sebald Luftkrieg und Literatur (Rhyfel-Awyr a Llenyddiaeth]], gan drafod y 600,000 marwolaeth sifil a achoswyd gan bomio Americanaidd a Phrydeinig ar ddinasoedd yr Almaen. Cyhoeddwyd "A Woman in Berlin" eto yn Saesneg yn 2005, gyda chyflwyniad gan Antony Beevor, hanesydd Prydeinig amlwg sydd hefyd wedi cyhoeddi am Brwydr Berlin. Mae wedi ei ddisgrifio y llyfr fel "y cyfrif personol mwyaf pwerus i ddod allan o'r Ail Ryfel Byd." [11]

Hunaniaeth yr Awdures a dilysrwydd[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 2003, datgelodd Jens Bisky (golygydd llenyddol yr Almaen) yr awdures anhysbys fel y newyddiadurwraig Marta Hillers, a fu farw yn 2001. Dechreuodd ddadl yn y byd llenyddol. Roedd y cyhoeddwr yn ddig bod ei phreifatrwydd wedi'i golli. Nid oeddent yn fodlon cydsynio i geisiadau gan newyddiadurwyr i adolygu deunyddiau dyddiadur gwreiddiol yr awdur. Wrth ysgrifennu yn y Berliner Zeitung, dywedodd Christian Esch, pe bai'r gwaith yn cael ei dderbyn fel un dilys, roedd yn rhaid i bobl archwilio'r dyddiaduron. Dywedodd fod testun y llyfr yn nodi bod newidiadau wedi'u gwneud rhwng y dyddiaduron cychwynnol a llawysgrifen deipio. Fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg a'i gyhoeddi am y tro cyntaf bron i ddegawd ar ôl y digwyddiadau, yn 1954 yn Saesneg ac yn 1959 yn Almaeneg. Nododd fod yna wahaniaethau bach rhwng y fersiynau.

Mae'r cyhoeddwyr Enzensberger wedi cyflogi Walter Kempowski, arbenigwr ar ddyddiaduron y cyfnod, i archwilio nodiadau a theipysgrif gwreiddiol Hillers; roedd yn eu datgan yn ddilys. Ar ôl cwestiynau gan newyddiadurwyr, rhyddhaodd Enzensberger adroddiad Kempowski ym mis Ionawr 2004. Roedd Kempowski wedi nodi bod fersiwn arall o ddigwyddiadau yn cael ei gefnogi gan nifer o ffynonellau eraill. Nododd fod Hillers wedi ychwanegu deunydd at y teipysgrif a'r llyfr a gyhoeddwyd nad oeddynt yn y dyddiadur, ond mae golygyddion a beirniaid yn cytuno bod hwn yn rhan arferol o'r broses adolygu a golygu. Cadarnhaodd Antony Beevor, hanesydd Prydeinig ei gred yn nilysrwydd y llyfr pan gyhoeddwyd yn Saesneg yn 2005. Dywedodd ei fod yn cydymffurfio â'i wybodaeth fanwl o'r cyfnod a ffynonellau cynradd eraill a ddefnyddwyd ganddo. Ysgrifennodd Beevor y rhagair i'r argraffiad Saesneg newydd o'r llyfr 2005.