Menter Iaith Abertawe

Oddi ar Wicipedia

Menter Iaith wedi'i lleoli yn Abertawe, sydd â'r nod o ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn Ninas a Sir Abertawe yw Menter Iaith Abertawe. Yn 2013 roedd gan y fenter 7 o staff llawn amser ac 11 o staff rhan amser gyda'u swyddfa yn Nhŷ Tawe. Erbyn hyn, mae gan y fenter 4 aelod o staff llawn amser, sef y Pennaeth, Swyddog Datblygu, Swyddog Plant a Theuluoedd a Swyddog Datblygu Canolfan a Chymuned. Sefydlwyd Menter Iaith Abertawe yn 2001. Prif bwrpas Menter Iaith Abertawe yw i "hwyluso cyfleoedd i bobl Sir Abertawe fyw trwy gyfrwng y Gymraeg ac i fwynhau diwylliant Cymraeg yn eu bywydau bob dydd."

Gwneir hyn drwy'r amcanion canlynol:

  1. Datblygu cyfleoedd i blant a phobl ifanc sir Abertawe i ddefnyddio'r Gymraeg.
  2. Datblygu'r defnydd o'r Gymraeg ymhlith dysgwyr.
  3. Bod y sectorau gwirfoddol, preifat a statudol yn Abertawe yn defnyddio’r Gymraeg.
  4. Cynnig cyfleoedd i bobl sir Abertawe ddefnyddio'r iaith Gymraeg drwy godi ymwybyddiaeth a marchnata'r cyfleoedd hyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]