Mendocino


Mae Mendocino yn bentref ar arfordir Gogledd Califfornia, yn yr Unol Daleithiau. Mae Afon Fawr yn llifo trwy'r pentref. Cynhyrchir gwin yn yr ardal.[1] Cynhelir Gŵyl Ffilm pob haf[2] a gwyl cerddoriaeth ym mis Gorffennaf.[3] Mae Fforest Genedlaethol Mendocino yn cynnwys 913,306 o erwau[4]