Neidio i'r cynnwys

Meddygon Esgyrn Môn

Oddi ar Wicipedia

Teulu o feddygon yn Sir Fôn oedd Meddygon Esgyrn Môn a oedd yn enwog am eu dawn am osod esgyrn.[1][2]

Yn yr 1730au roedd llongddrylliad oddi ar Ynys y Fydlyn, Gogledd Orllewin Môn, a daeth dyn lleol o'r enw Danny Luckie o hyd i ŵr a dau fachgen wedi eu golchi i'r lan. Roedd y gŵr yn siarad iaith estron a'r plant yn rhy ifanc i gyfathrebu. Bu'r farw gŵr a nid oes sôn wedyn am un o'r bechgyn ac efallai iddo farw hefyd. Byw wnaeth y bachgen bach arall ac fe'i gymerwyd i fyw ar fferm Maes y Merddyn Brych, ger Llanfair yng Nghornwy, a'i enwi yn Evan Thomas. Erbyn heddiw mae wyth cenhedlaeth o ddisgynyddion Evan Thomas wedi bod yn osodwyr esgyn ond mae'r dirgelwch am dras y teulu yn parhau. Yn 2012 bu ymchwiliad i DNA disgynyddion Evan Thomas. Un ohonynt, Thomas Dafydd Evans, oedd y Cymro gyntaf i'w ddilyniant DNA llawn gael ei ddadansoddi.

Wrth i Evan dyfu fyny, darganfuwyd fod ganddo ddawn gynhenid i osod esgyrn. Dywedir ei fod yn gallu datgymalu coes cyw iâr er mwyn ei osod yn ôl at ei gilydd. Nes ymlaen byddai'n helpu'r meddyg lleol i osod esgyrn cleifion.

Richard Evans

[golygu | golygu cod]

Yn dal i fyw ar y fferm, ganwyd mab i Evan yn 1772 sef Richard Evans (neu Richard ab Evan). Pasiwyd yr arbenigedd gyda esgyrn ymlaen iddo yntau. Priododd Richard yn 1800 a symudodd i Gilmaenan, Llanfaethlu, gyda'i wraig. Roedd Richard yn mynd allan i drin pobl gan fynd allan ar gefn ceffyl. Cafodd Richard tri o feibion a pedwar merch.

Evan Thomas

[golygu | golygu cod]

Enw un mab oedd Evan Thomas fel ei daid a daeth yntau yn osodwr esgyrn nodedig yn ardal Lerpwl. Nid oedd Evan yn feddyg swyddogol a chafodd drafferthion gan feddygon cymwysedig am ei fod yn bachu cleientiaid. Ceisiodd rhai dwyn achosion llys yn ei erbyn - ond enillodd pob achos. I osgoi'r trafferthion hyn danfonodd Evan ei bum mab i astudio meddygaeth yn y brifysgol. Aeth yr hynaf, Hugh Owen Thomas, ymlaen i ddyfeisio'r 'Thomas splint', a chaiff ei adnabod fel tad llawdriniaeth orthopedig fodern. Roedd ei nai, Robert Jones, hefyd yn feddyg a weithiodd gyda'i ewythr am gyfnod, ac aeth ymlaen i sefydlu Ysbyty Orthopedig Gobowen. Robert Jones oedd y dyn cyntaf yn y byd i ddefnyddio Pelydr-X i drin asgwrn. Aeth a'r Thomas splint allan i drin cleifion ar feysydd y Rhyfel Byd Cyntaf.


Lluniwyd Traethawd, "Meddygon Esgyrn Môn", ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Môn ym 1934. Cyhoeddwyd y traethawd buddugol yn y gystadleuaeth gan H. Hughes Roberts dan y teitl Meddygon Esgyrn Môn. Perfformiwyd drama am y Meddygon Esgyrn, gan tad y cerddor John Hywel (a oedd yn feddyg yn Amlwch, Môn) un arall o ddisgynyddion Evan Thomas. Yn fwy diweddar, yn 2014, cyhoeddwyd Er Lles Llawer - Meddygon Esgyrn Môn gan J. Richard Williams.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Pwy oedd Meddygon Esgrn Môn? , BBC Cymru Fyw, 8 Awst 2017. Cyrchwyd ar 19 Mehefin 2019.
  2. Williams, J. Richard (2014). Er Lles Llawer - Meddygon Esgyrn Môn. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9781845274733.