Neidio i'r cynnwys

Meddalwedd golygu fideo

Oddi ar Wicipedia
Meddalwedd golygu fideo
Enghraifft o'r canlynolmath o feddalwedd, categori o gynhyrchion Edit this on Wikidata
Mathmeddalwedd fideo, golygydd, multimedia & design software Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae meddalwedd golygu fideo yn feddalwedd a ddefnyddir i berfformio golygu fideo ôl-gynhyrchu o ddilyniannau fideo digidol ar system olygu aflinol (NLE Saesneg:non-linear editing system). Mae'r meddalwedd wedi disodli offer golygu ffilm seliwloid traddodiadol a pheiriannau golygu ar-lein tâp.[1]

Mae meddalwedd NLE fel arfer yn seiliedig ar rhyngwyneb llinell amser lle mae rhannau o recordiadau fideo delwedd symudol, a elwir yn glipiau, yn cael eu gosod mewn trefn a'u chwarae yn ôl. Mae NLE yn cynnig ystod o offer ar gyfer tocio, sbleisio, torri a threfnu clipiau ar draws y llinell amser. Unwaith y bydd prosiect wedi'i gwblhau, yna gellir defnyddio'r system NLE i allforio i ffilm mewn amrywiaeth o fformatau a all amrywio o fformatau tâp darlledu i fformatau cywasgedig ar gyfer y rhyngrwyd, DVD a dyfeisiau symudol. Wrth i systemau NLE digidol ddatblygu eu rhyngwyneb, mae eu rôl wedi ehangu ac mae'r rhan fwyaf o systemau NLE cyffredinol a phroffesiynol bellach yn cynnwys llu o nodweddion ar gyfer trin lliwiau, teitlau ac effeithiau gweledol, ynghyd ag offer ar gyfer golygu a chymysgu sain wedi'i amseru â'r ddelwedd fideo.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Pum nodwedd y dylai meddalwedd Golygu Fideo eu cael ar gyfer defnyddiwr iOS". Newyddion Technoleg, Gadgets, Ffonau Symudol, Blogiau (yn Cym). Cyrchwyd 2020-04-01.CS1 maint: unrecognized language (link)[dolen farw]