Mawrthiad

Oddi ar Wicipedia
Cerflun o Fawrthiad Wellsaidd trichoes yn nhref Woking, Lloegr

Un o drigolion y blaned Mawrth yw Mawrthiad. Er bod y chwilio am dystiolaeth o fywyd ar blaned Mawrth yn parhau, mae nifer o awduron ffuglen wyddonol wedi dychmygu sut beth fyddai bywyd allfydol ar Fawrth. Yr enwocaf i wneud hynny, siwr o fod, yw H.G. Wells yn ei nofel The War of the Worlds a gyhoeddwyd gyntaf yn 1898.

Yn Saesneg, o leiaf, mae'r gair am Fawrthiad, 'Martian', hefyd wedi'i ddefnyddio i ddisgrifio bod dynol sydd wedi ymgartrefu ar y blaned honno.

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ceir y defnydd cynharaf o'r gair 'Mawrthiad' yn 1914.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "'Mawrthiad' yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru".