Mary Lou McDonald
| Mary Lou McDonald TD | |
|---|---|
Mary Lou McDonald yn 2018 | |
| Arweinydd y gwrthwynebwyr | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 27 Mehefin 2020 | |
| Arlywydd | Michael D. Higgins |
| Taoiseach | |
| Rhagflaenwyd gan | Micheál Martin |
| Llywydd Sinn Féin | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 10 Chwefror 2018 | |
| Rhagflaenwyd gan | Gerry Adams |
| Is-lywydd Sinn Féin | |
| Yn ei swydd 22 Chwefror 2009 – 10 Chwefror 2018 | |
| Arlywydd | Gerry Adams |
| Rhagflaenwyd gan | Pat Doherty |
| Dilynwyd gan | Michelle O'Neill |
| Teachta Dála | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd Etholiad cyffredinol Iwerddon 2011 | |
| Etholaeth | Canol Dulyn |
| Aelod o Senedd Ewrop | |
| Yn ei swydd 1 Gorffennaf 2004 – 20 Mehefin 2009 | |
| Etholaeth | Dulyn |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | Mary Louise McDonald 1 Mai 1969 Churchtown, Dulyn, Iwerddon |
| Plaid wleidyddol | Sinn Féin |
| Cysylltiadau gwleidyddol arall | Fianna Fáil (1998–1999) |
| Priod | Martin Lanigan (pr. 1996) |
| Plant | 2 |
| Alma mater | |
| Gwefan | Gwefan swyddogol |
Mary Lou McDonald yw Llywydd Sinn Féin a Teachta Dála ar gyfer etholaeth Canol Dulyn.
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Mae Mary Lou yn briod â Martin ac mae ganddynt ddau o blant ifanc, Iseult a Gerard.[1]
Addysg a gyrfa cynnar
[golygu | golygu cod]Addysgwyd hi yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, Prifysgol Limerick a Phrifysgol Dinas Dulyn ac astudiodd Lenyddiaeth Saesneg, Astudiaethau Integreiddio Ewropeaidd a Rheoli Adnoddau Dynol. Cyn hynny bu’n gweithio fel ymgynghorydd i'r Canolfan Cynhyrchiant Gwyddelig, yn ymchwilydd i’r Sefydliad Materion Ewropeaidd ac yn hyfforddwr yn Uned Partneriaeth yr Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Addysg a Hyfforddiant a noddir gan undebau llafur.[1]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Bu’n Aelod o Senedd Ewrop dros Ddulyn o 2004 i 2009 ac yn ystod ei chyfnod yn Senedd Ewrop roedd Mary Lou yn aelod o’r pwyllgor Cyflogaeth a Materion Cymdeithasol a’r pwyllgor Rhyddid Sifil.
Yn dilyn ei hethol i’r Dáil yn 2011 Mary Lou oedd Llefarydd Sinn Féin ar Wariant Cyhoeddus a Diwygio ac ar ei hail-etholiad yn 2016 Llefarydd Iwerddon Gyfan Sinn Féin dros Iechyd Meddwl ac Atal Hunanladdiad.
Bu’n aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rhwng 2011 a 2017 gan ddwyn Gweinidogion ac uwch weision sifil i gyfrif. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu ar Gyd-bwyllgorau’r Oireachtas ar gyfer Gwariant Cyhoeddus a Diwygio a Dyfodol Iechyd Meddwl.
Cyn dod yn Arweinydd Sinn Féin ym mis Chwefror 2018, roedd Mary Lou yn Ddirprwy Arweinydd y blaid.
Mae hi'n cynrychioli Canol Dulyn fel Teachta Dála ac yn Llywydd Sinn Féin.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Mary Lou McDonald TD". www.sinnfein.ie. Cyrchwyd 2023-09-22.