Maint daeargryn

Oddi ar Wicipedia

Mesur o arddwysedd daeargryn yw maint daeargryn. Gellir amcangyfrif maint daeargryn ar sail ei effaith ddinistriol drwy ddefnyddio graddfa Mercalli. Fodd bynnag, gan fod y mesur hwn yn ddibynnol ar ffactorau daearegol lleol a sefydlogrwydd adeiladau, fe'i disodlwyd i raddau helaeth gan raddfa Richter, sy'n seiliedig ar osgled tonnau seismig.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.