MET-Art

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Alysha A - un o fodelau mwyaf poblogaidd MET-Art.[1]

Grwp o wefanau sy'n cyflwyno modelau erotig ydy MET-Art (neu MetArt), sy'n eiddo i MetArt Network, ac sy'n arwchilio noethni drwy ffotograffiaeth erotig.[2] Perchennog MetArt Network ydy HLP General Partners Incorporated o Santa Monica, California.[3] Merched yn unig sydd ar y wefan, a gychwynwyd yn 1998 dan yr enw MostEroticTeens.com.[4] Ei nod ydy creu erotica artistig o ansawdd uchel, drwy ddefnyddio ffotograffwyr sydd wedi ennill gwobrau mwyaf America, neu wobrau byd-eang.

Yn 2012 roedd yn un o 1500 o wefanau mwyaf poblogaidd y byd ond erbyn 2016 roedd yn 10,309fed, ac wedi mynd i lawr yn sylweddol.[5][6]

Strwythyr y cwmni[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae MetArt yn un o sawl gwefan dan ofal MetArt Network. Ei chwaer-wefan ydy SexArt sy'n targedu'r fenyw yn bennaf ac yn galw ei gynnyrch yn "Romantic Porn". Mae'r cyllid ar gyfer y ffotograffau a'r fideos yn enfawr ac yn aml wedi eu saethu mewn llefydd ecsotig a stori y tu ôl i'r shwt.

Prynnu[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Chwefror 2014 prynnodd y grwp y wefan Domai.com[7] a goddessnudes.com[8] - y gwefanau a'r archif.[9] Ffurfiwyd Domai.com gan Eolake Stobblehouse yn 1997.[9] Ym Mawrth 2013 dechreuodd MetArt reoli gwefan VivThomas.com, a phrynwyd hi ym Mai 2014.

Gwefanau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • ALS Scan
  • Domai
  • Erotic Beauty
  • Errotica Archives
  • Eternal Desire
  • Goddess Nudes
  • Holly Randall
  • Michael Ninn
  • Rylsky Art
  • SexArt
  • Stunning18
  • The Life Erotic
  • Viv Thomas

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.youtube.com; accessed 16 Medi 2016.
  2. Staff. "Met Art Network". Met Art Network. Cyrchwyd 21 March 2014.
  3. WIPO Arbitration and Mediation Center; “Case No. D2005-1323” § 1 ¶ 2.
  4. WIPO Arbitration and Mediation Center; “Case No. D2005-1323” § 4 ¶ 6.
  5. "met-art.com". Ranking and related information. Alexa.
  6. www.alexa.com accessed / gweld o ar 16 Medi 2016.
  7. Domai.com
  8. Goddessnudes.com
  9. 9.0 9.1 Staff. "MetArt Acquires Art-nude Sites Domai.com, GoddessNudes.com". Adult Video News. Cyrchwyd 28 February 2014.