M'Goun

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ighil M'Goun
Atlas Uchel
Mynydd M'Goun dan yr eira
Llun Mynydd M'Goun dan yr eira
Uchder 4.071 m
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Moroco


Mynydd yn yr Atlas Uchel ym Moroco yw M'Goun (4,071 m), a adnabyddir wrth sawl enw, yn cynnwys Ighil M'Goun, Ighil n'Oumsoud, Irhil M'Goun, Jebel M'goun, a Djebel Aït M'goun. Dyma'r copa trydydd uchaf ym Moroco ar ôl Jebel Toubkal (4,167 m) ac Ouanoukrim (4,088 m). Mae'n gorwedd yng nghanolbarth Moroco, yn nhalaith Ouarzazate yn rhanbarth gweinyddol Souss-Massa-Draâ.

Dydy M'Goun ddim yn fynydd sy'n denu llawer o ddringwyr mewn cymhariaeth â Toubkal, ond mae'n bosibl ei ddringo o sawl cyfeiriad gyda dinas Azilal, i'r gorllewin, yn fan cychwyn poblogaidd.

Mae crib uchel y mynydd yn ymestyn am tua 10 km.

Flag of Morocco.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato