Lolipop

Oddi ar Wicipedia
Lolipop

Mae lolipop yn fath o siwgr candi sydd fel arfer yn cynnwys candi caled wedi'i osod ar ffon er mwyn ei sugno neu lyfu.[1]

Daw lolipops mewn nifer o liwiau a blasau, yn enwedig blasau ffrwythau. Gyda nifer o gwmnïau'n cynhyrchu lolipops, mae'r losing bellach yn dod mewn dwsinau o flasau a llawer o wahanol siapiau. Maent yn amrywio o rai bach y gellir eu prynu wrth y cant ac yn aml yn cael eu rhoi i ffwrdd am ddim mewn banciau, siopau barbwr, a lleoliadau eraill, i rai mawr iawn sy'n cael eu gwneud allan o ffyn candi wedi'u troi yn gylch.

Mae'r rhan fwyaf o lolipops yn cael eu bwyta ar dymheredd ystafell, ond mae "lolipops iâ" yn lolipops dŵr wedi'u rhewi.

Mae rhai lolipops yn cynnwys llenwadau, fel gwm swigod neu gandi meddal. Mae gan rai lolipops eitemau mwy anarferol, fel larfâu llyngyr, wedi'u mewnosod yn y candi.[2] Mae gan rai lolipops ganol na ellir ei fwyta, fel goleuadau sy'n fflachio, wedi'i fewnosod yn y candi; mae lolipops hefyd i'w cael ar ffon ag arni ddyfais fodur sy'n troelli'r lolipop yn y geg.

Mae'r syniad o osod losin bwytadwy ar ffon yn un syml iawn, ac mae'n debyg bod y lolipop wedi'i ddyfeisio a'i ail-greu sawl gwaith.[3] Mae'r melysion cyntaf sy'n ymdebygu i'r hyn rydym yn ei alw'n lolipops yn dyddio o'r Oesoedd Canol, pan fyddai'r uchelwyr yn aml yn bwyta siwgr wedi'i ferwi gyda chymorth ffyn neu ddolenni.[3]

Mae dyfeisiad y lolipop modern yn dal i fod yn ddirgelwch ond mae nifer o gwmnïau Americanaidd ar ddechrau'r 20g wedi honni mai hwy oedd y cyntaf. Yn ôl y llyfr Food For Thought: Chronicles Little Little of the World, cawsant eu dyfeisio gan George Smith o New Haven, Connecticut, a ddechreuodd wneud melysion wedi'u berwi a oedd wedi'u mowntio ar ffyn ym 1908. Enwodd hwy ar ôl ceffyl rasio o'r cyfnod, Lolly Pop[4] - a rhoddodd nod masnach ar yr enw lolipop yn 1931.[5]

Cafodd y term 'lolipop' ei gofnodi gan y geiriadurwr o Loegr Francis Grose yn 1796.[6] Mae'n bosib bod y term wedi tarddu o'r term "lolly" (tafod) a "pop" (slap). Mae'r cyfeiriadau cyntaf at y lolipop mewn cyd-destun modern yn dyddio yn ôl i'r 1920au.[7] Fodd bynnag, gall fod y gair o darddiad Romani, yn perthyn i'r trafoddiad Roma o werthu afalau taffi. 'Afal coch' yn yr iaith Romani yw loli phaba.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Lollipop". How Products are Made. Advameg Inc. 2007. Cyrchwyd 2007-08-19.
  2. Fromme, Alison (July–August 2005). "Edible insects". Smithsonian National Zoological Park. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-11-11. Cyrchwyd 2007-03-24. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. 3.0 3.1 "The History of Lollipop candy". CandyFavorites.com. Cyrchwyd 2013-12-27.
  4. Pearce, Food For Thought: Extraordinary Little Chronicles of the World, (2004) page 183.
  5. "Lollipops and Candy Suckers – Retro Candy from". CandyCrate.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-13. Cyrchwyd 2013-12-27.
  6. Oxford English Dictionary, Second Edition, 1933
  7. Harper, Douglas. "lollipop". Online Etymology Dictionary. Cyrchwyd 17 January 2012.
  8. Hubschmannova, Milena; Kalinin, Valdemar; Kenrick, Donald (2000). What is the Romani Language?. ISBN 9781902806068. Cyrchwyd 2013-12-27.