Neidio i'r cynnwys

Locale

Oddi ar Wicipedia

Yng nghyd-destun meddalwedd mae locale yn set o baramedrau sy'n diffinio iaith a gwlad neu leoliad y defnyddiwr yn ogystal ag unrhyw ffactorau eraill sy'n dylanwadu ar gyflwyniad gwybodaeth.

Fel arfer mae dynodwr locale yn cynnwys o leiaf dynodwr iaith a dynodwr rhanbarth. Mae cy_GB yn nodweddiadol ar gyfer y Gymraeg yng ngwledydd Prydain.

Mae'n gallu dylanwadu ar y drefn coladu, fformatau dyddiad ac amser, confensiynau arian a rhif, iaith enwau llefydd, misoedd ac yn y blaen. Mae'r Storfa Ddata Iaith Gyffredin ( CLDR ) yn rhan o Unicode ac mae'n cadw gwybodaeth locale ar gyfer y rhan fwyaf o ieithoedd a rhanbarthau.

Ieithoedd Cyfrifiadurol

[golygu | golygu cod]

Enghreifftiau o'r defnydd o locale gyda ieithoedd rhaglennu gwahanol

Perl

my $dyddiad = DateTime->new( year=>2012, month=>6, day=>15, locale=>'cy', );
print $dyddiad->date();
print $dyddiad->month_name();
print $dyddiad->day_name();
print $dyddiad->quarter_name();

Allbwn:
2012-06-15
Mehefin
Dydd Gwener
2il chwarter

my $l=Locales->new(q(cy));
for my $code (qw(ar cy eg fr gb gr pl us)) { 
    print $code,' => ',$l->get_territory_from_code($code);
}

Allbwn:
ar => Yr Ariannin
cy => Cyprus
eg => Yr Aifft
fr => Ffrainc
gb => Prydain Fawr
gr => Gwlad Groeg
pl => Gwlad Pwyl
us => Yr Unol Daleithiau

Dolennau allanol

[golygu | golygu cod]
Chwiliwch am locale
yn Wiciadur.