Llythrennedd gwybodaeth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae llythrennedd gwybodaeth wedi'i ddisgrifio fel 'y gallu i wybod pa bryd y mae angen gwybodaeth, ac i'w hadnabod, ei lleoli, ei gwerthuso, a'i defnyddio'n effeithiol'.[1][2][3] Mae diffiniadau eraill yn cynnwys elfennau o gloriannu, cwestiynu a deall[4] neu'n ymgorffori cymwyseddau y dylai dinesydd gwybodus mewn cymdeithas wybodaeth eu meddu er mwyn cyfranogi'n ddeallus fel aelod o'r gymdeithas honno.[5]Yn 1974 y defnyddiwyd y term llythrennedd gwybodaeth gyntaf mewn print, a hynny yn Saesneg ('information literacy') mewn adroddiad a ysgrifennwyd Paul G. Zurkowski ar ran Comisiwn Cenedlaethol ar Lyfrgelloedd a Gwyddor Gwybodaeth yn yr Unol Daleithiau. Defnyddiodd Zurkowski y term i ddisgrifio'r 'technegau a medrau' sy'n cael eu dysgu gan y rhai sy'n llythrennog mewn gwybodaeth 'i wneud defnydd o ystod each o declynnau gwybodaeth yn ogystal â ffynonellau craidd i fowldio datrysiadau gwybodaeth i'w problemau'. Roedd hefyd yn nodi gwahaniaeth eitha pendant rhwng y 'llythrennog' a'r 'llythrennog mewn gwybodaeth'.

Bu sawl ymgais ers hynny i wella'r diffiniad o lythrennedd gwybodaeth a'i berthynas â gwahanol medrau a ffurfiau eraill o lythrennedd. Mae amcanion addysgol eraill, gan gynnwys llythrennedd draddodiadol, llythrennedd gyfrifiadurol, medrau llyfrgellyddol, a medrau meddwl yn feirniadol, yn perthyn i lythrennedd gwybodaeth ac yn cael eu hystyried yn sylfaeni pwysig i'w ddatblygiad. Serch hynny, mae llythrennedd gwybodaeth yn datblygu fel cyfuniad neilltuol o fedrau sy'n cael eu hystyried yn hanfodol i les economaidd a chymdeithasol yr unigolyn mewn cymdeithas wybodaeth.[6] Yn ôl McTavish (2009), mae llywodraethau a diwydiannau o amgylch y byd yn herio cyfundrefnau addysgol i ganolbwyntio sylw y bobl ar lythrennedd er mwyn cynyddu eu cyfraniad i gymdeithas iach, ddemocrataidd a lluosogaethol a chynnal economi ffyniannus a chynaliadwy.[7]



Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]