Llys mân symiau

Oddi ar Wicipedia

Mae'r term Llys mân symiau yn ychydig yn gamarweiniol gan na fu erioed lys arbennig ar gyfer delio â mân hawliadau ariannol. Y Llys Sirol sy'n ymateb i hawliadau o'r fath mewn gwirionedd, ond mae wedi mabwysiadu trefn llwybr cyflym (neu lwybr tarw) i ymateb i fân hawliadau (fel arfer, £5000 neu lai) gan beri defnyddio'r enw poblogaidd.

Mae'r darpariaethau llwybr cyflym yn annog symlrwydd ac anffurfioldeb ac nid oes angen i'r gweithdrefnau gydymffurfio â holl reolau ffurfiol tystiolaeth. Nid oes cymorth cyfreithiol ar gael, er bod modd i barti gael ei gynrychioli gan leygwr (gw. Deddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (a.11)).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-30.