Llyn Volta

Oddi ar Wicipedia
Lleoliad Llyn Volta

Cronfa ddŵr yn ne-ddwyrain Ghana yw Llyn Volta. O ran arwynebedd, Volta yw'r gronfa fwyaf yn y byd, gydag arwynebedd o 8,502 km².

Crewyd y gronfa trwy adeiladu Argae Akosombo ar draws afon Volta. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1961, a gorffennwyd ef yn 1965. Bu raid symud tua 78,000 o bobl. Mae'r argae yn cynhyrchu digon o drydan i'r rhan fwayf o'r wlad.

Rhan o Lyn Volta, yn dangos gweddillion coed.